Neidio at y cynnwys

S4C

CON PASSIONATE YMHLITH ENWEBIADAU S4C YN YR WYL FFILM A THELEDU GELTAIDD

06-Chwe-2006

Mae'r ddrama gyfres boblogaidd Con Passionate (Apollo) wedi ei henwebu am wobr yn yr Wyl Ffilm a Theledu Geltaidd, sydd i'w chynnal eleni yng Nghernyw.

Mae’r ddrama, sydd â Shân Cothi a William Thomas ymhlith y prif actorion ac sy’n dychwelyd i’r sgrîn ar gyfer ail gyfres ym mis Ebrill, yn un o saith enwebiad a dderbyniodd S4C.

Mae'r ddrama ddogfen Gêm y Ganrif (Green Bay) sy'n ail-greu gêm fythgofiadwy 1905 pan gurodd Cymru’r Crysau Duon, wedi ei henwebu am wobr yn y categori Proffil Chwaraeon. Mae'r rhaglen ddogfen gelfyddydol Duw A Ŵyr (Cwmni Da), sy’n rhoi sylw i ddehongliadau jazz y gantores Lleuwen Steffan o emynau'r diwygiad, hefyd ar y rhestr fer.

Mae'r ffilm fer Bwyta Geiriau (Dafydd Palfrey) a'r animeiddiad Dave (Griffilms) wedi eu henwi ar y rhestr fer, tra bod rhifyn o’r gyfres materion cyfoes Y Byd Ar Bedwar (ITV Cymru), hefyd wedi ei enwebu am wobr.

Yn yr adran Cyfryngau Newydd, mae gwefan gynhwysfawr S4C ar gyfer dysgwyr - www.learnons4c.co.uk - (Acen) wedi ei enwebu. Mae'r gwasanaeth rhyngweithiol newydd, a lansiwyd ym mis Hydref 2005, yn cynnig cynnwys ac adnoddau i ddysgwyr ar bump gwahanol lefel.

Dywed Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae safon y rhaglenni a'r gwasanaethau sydd wedi eu henwebu am wobrau yn yr wyl bwysig hon, sy'n denu ymgeiswyr o bob cwr o'r DU ac Iwerddon, yn adlewyrchu lefel uchelgais S4C ar gyfer ei gwasanaeth rhaglennu ac rwy'n llongyfarch pawb sy'n gysylltiedig â'r enwebiadau."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales