Neidio at y cynnwys

S4C

APÊL ASIA/AFFRICA YN CODI £70,000

13-Chwe-2006

Mae bron i saith mil o blant ysgol gynradd yn un o ardaloedd tlotaf Tanzania, Affrica yn mwynhau cinio ysgol blasus a maethlon, diolch i Apêl Asia/Affrica S4C 2005, a gododd £70,000.

Mae 89 tunnell o india-corn, 26.5 tunnell o ffa a 3,312 litr o olew wedi eu dosbarthu i 14 o ysgolion yn rhanbarth Shinyanga yn Nhanzania, yn ogystal ag offer amaethyddol, hadau a hyfforddiant i alluogi ysgolion i gynhyrchu eu cyflenwad bwyd eu hunain.

Mae presenoldeb yn yr ysgol wedi codi i 98% o ganlyniad i'r prosiect bwydo, sy'n cael ei weithredu gan Oxfam Cymru ar ran S4C, a thrwy leihau'r newyn, mae myfyrwyr yn canolbwyntio’n well yn eu gwersi, yn enwedig gyda’r prynhawn.

Meddai Catherine Hester, Pennaeth Oxfam Cymru, ”Gyda chymorth Apêl Asia/Affrica S4C 2005 mae'r prosiect hwn wedi cael effaith bellgyrhaeddol ar leihau'r newyn a'r absenoldeb. Mae’r prosiect hefyd wedi ennyn cydweithrediad yn lleol ac yn genedlaethol i wella cyflenwad bwyd ysgolion."

Mae Milembe Nicolaus yn blentyn amddifad pymtheng mlwydd oed sy’n ddisgybl yn ysgol gynradd Bugimagu ac sy’n byw gyda'i mam-gu. Meddai, "Doeddwn i’n methu â chredu'r peth pan glywes i ein bod ni am gael cinio ysgol. Dim ond un pryd bwyd y dydd mae mam-gu a fi’n ei gael, a hynny gyda'r nos. Ar achlysuron prin yn unig dwi'n cael brecwast.

"Doeddwn i’n methu â chanolbwyntio'n iawn yn y dosbarthiadau achos mod i eisiau bwyd ac ro'n i'n ei chael hi'n anodd i helpu gyda'r gwaith ty ar ôl cyrraedd adre. Nawr, a minnau'n cael bwyd yn yr ysgol, dwi'n mynd adre yn gryf ac yn gallu helpu heb unrhyw broblem. Dwi hefyd yn gwneud yn well yn yr ysgol, gan symud o safle 16 i 6ed mewn dosbarth o 67 o ddisgyblion."

Mae'r arian a godwyd gan S4C hefyd wedi cefnogi prosiect Oxfam i osod mesurwyr dðr yn ardal drefol Shinyanga. Mae cynnydd yn y nifer o gwsmeriaid sydd â mesurwyr wedi sicrhau defnydd mwy economaidd o ddðr, llai o golledion dðr, prisiau tecach a gwasgedd dðr gwell, sy'n golygu fod mwy o ddðr yn cyrraedd mwy o bobl.

APÊL TSUNAMI CYMRU
Mae arian o’r apêl hefyd wedi mynd at gefnogi prosiect therapi celf arbennig yn Sri Lanka. Bwriad y prosiect tair-blynedd-o-hyd yw i helpu cymunedau i ddod i delerau â digwyddiadau erchyll tsunami 2004.

Am ragor o wybodaeth ewch i s4c.co.uk/apel2006.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales