Neidio at y cynnwys

S4C

TENDRO RHAGLENNI S4C - AMSERLEN

15-Chwe-2006

Yn ystod y misoedd nesaf bydd S4C yn cyhoeddi sawl tendr rhaglenni.

Ar 1 Mawrth bydd tendr animeiddio gwerth oddeutu £500,000 dros gyfnod o ddwy flynedd yn cael ei gyhoeddi. Bydd nifer a hyd y cytundeb[au] yn amrywio dros y cyfnod.Y dyddiad cau ar gyfer cynigion fydd 19 Ebrill a disgwylir penderfyniad a chyhoeddiad cyn diwedd mis Mai.

Bydd cytundeb gwerth £2m i gynhyrchu Dechrau Canu Dechrau Canmol am gyfnod o ddwy flynedd yn cael ei gyhoeddi ar 28 Mawrth. Y dyddiad cau ar gyfer cynigion i S4C fydd 10 Mai a rhagwelir y bydd cyhoeddiad am y cwmni buddugol yn ystod mis Mehefin.

Yn ogystal, bydd S4C yn cyhoeddi tendr ym mis Mehefin ar gyfer creu cronfa o gwmnïau i ymgeisio am waith dybio ar unrhyw animeiddiadau sy’n cael eu prynu gan S4C yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Bydd y tendrau yn cael eu cyhoeddi ar wefan cynhyrchwyr S4C - s4c.co.uk/cynhyrchwyr.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales