Neidio at y cynnwys

S4C

MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER RHAGLEN DDAWNS

20-Chwe-2006

Mae S4C yn ystyried cynhyrchu rhaglen deledu hanner awr o hyd yn seiliedig ar berfformiad dawns. Y bwriad yw cael cwmni dawns i mewn i stwidio i berfformio yn arbennig ar gyfer y camera. Noder y bydd angen i’r cwmni llwyddiannus fod ar gael ar gyfer ffilmio yn ystod yr wythnos yn dechrau 3ydd Ebrill.

Gwahoddir mynegiadau o ddiddordeb gan gwmnïau sydd yn gallu dangos profiad yn y maes o ffilmio/recordio perfformiadau dawns neu weithgareddau tebyg.

Mae’r gwahoddiad yn agored i bob cwmni sy’n credu y gallant gwrdd â’r gofynion a’r criteria a gynhwysir yn y gwahoddiad. Yn benodol, nid yw’r gwahoddiad wedi ei gyfyngu i gwmnïau o faint arbennig nag o unrhyw ardal(oedd) daearyddol arbennig.

Ceisiadau i'w derbyn erbyn 12.00 canol dydd ar y 24 o Chwefror 2006

Gwybodaeth bellach yma

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales