Neidio at y cynnwys

S4C

COFNODION - GRWP PERTHYNAS TAC/S4C

24-Chwe-2006

Grŵp Perthynas
15 Chwefror 2006

Yn bresennol
TAC: Huw Eurig
Angharad Anwyl
Branwen Cennard
Emyr Davies
Nia Wyn Thomas

S4C: Iona Jones
Delyth Wynne Griffiths
Sara Griffiths

1. Materion agoriadol a chyhoeddiadau

1.1 Mae cytundeb Angharad Jones fel Comisiynydd Drama yn dod i ben ym mis Medi 2006. Tan hynny bydd hi’n parhau i fod yn gyfrifol am gyfresi sy’n dychwelyd. Bydd syniadau am raglenni newydd yn cael eu cyflwyno trwy’r adnodd ar-lein ar Wefan y Cynhyrchwyr ac yn cael eu hystyried gan S4C. Bydd y swydd yn cael ei hadolygu pan fydd y Cyfarwyddwr Comisiynu newydd yn cael ei benodi/phenodi. Bydd rôl i Angharad ar ôl mis Medi mewn perthynas â rhaglenni y mae hi wedi’u comisiynu ac sy’n parhau i gael eu cynhyrchu.

1.2 2005 oedd y flwyddyn orau ar gyfer ffigurau cynulleidfa ers 1997. Mae’r cynnydd yng nghyfran a nifer yr holl wylwyr adeg yr oriau brig i fyny 11% blwyddyn ar flwyddyn. Er nad ydynt yn gysylltiedig, cafwyd cynnydd o 11% hefyd ymhlith siaradwyr Cymraeg yn ystod yr oriau brig. Yn ogystal, roedd cynnydd o 17% blwyddyn ar flwyddyn dros gyfnod y Nadolig .

Ni fyddai'r llwyddiant yma wedi bod yn bosibl heb gyd weithrediad ein partneriaid yn y sector annibynnol, ac mae S4C yn gwerthfawrogi'r ymrwymiad yma.

O ganlyniad i ffigurau newidiol iawn ar banel gwylio S4C, ni chyhoeddwyd ffigurau dros nos ers diwedd mis Ionawr. Mae BARB a’i gontractwyr yn ymchwilio i’r broblem er mwyn pennu beth sydd wedi achosi hyn. Bydd BARB yn adrodd i S4C ar ddiwedd mis Chwefror. Mae hyn yn effeithio ar S4C yn unig ac nid ar ddarlledwyr eraill.

1.3 Cafodd rhaglenni S4C 7 enwebiad yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd. Mae’r manylion ar gael ar Wefan Cynhyrchwyr S4C.

1.4 Penodwyd Dylan Griffith yn Ymgynghorydd Creadigol. Bydd yn llywio’r ail-frandio ac yn rhoi cyngor i holl Adrannau S4C ar gydlynu safonau. Bydd yn gysylltiedig â’r holl dendrau mewn perthynas â gwaith creadigol a bydd yn gweithio’n uniongyrchol i’r Prif Weithredwr. Dylai ail-frandio S4C cael ei gyflawni erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd rhai cynhyrchwyr a chwmnïau adnoddau yn cymryd rhan yn y cyfnod cyn-gweithredu.

1.5 31 Mawrth 2006 fydd cyfarfod olaf Elan Closs Stephens fel Cadeirydd Awdurdod S4C. Bydd cyhoeddiad ynghylch ei holynydd yn yr wythnosau nesaf.

1.6 Mae cyhoeddiad Papur Gwyn y BBC wedi ei oedi, a disgwylir i hyn ddigwydd ym mis Mawrth bellach. Mae BBC Cymru ac S4C wedi dod i gytundeb mewn egwyddor.


2. Materion yn codi o nodiadau’r cyfarfod ar 9 Tachwedd 2005

Lansiwyd y fersiwn electronig o’r brîff Golygyddol a Busnes ym mis Rhagfyr. Mae wedi derbyn ymateb cadarnhaol.


3. Gweinyddu

3.1 Cyfleuster electronig PAC (eitem agenda TAC)
Bu’r peilot adrodd yn electronig ar gyfer y Ffurflen Gerddoriaeth a’r Manylion Cyfleu Rhaglen wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae S4C wedi adolygu unrhyw faterion a adroddwyd ac mae’r sgriniau’n cael eu cyfieithu, gyda’r bwriad o lansio’r cyfleuster i bob cwmni yn fuan. Bydd tri aelod o staff S4C yn ymweld â’r cwmniau i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth mewn perthynas â’r system newydd.

3.2 Cyflwyno tapiau (eitem agenda S4C)
Ceir problem gyffredinol â chyfleu tapiau’n hwyr. Daw tapiau i mewn yn hwyr yn aml gan ddisgwyl y bydd y Comisiynwyr yn ymateb ymhen 24 i 48 awr. Caiff y golygu ar-lein ei drefnu’n aml heb roi digon o amser i Gomisiynwyr gynnig sylwadau ac ar gyfer gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn golygu.

Mae cyfleu’n hwyr hefyd yn effeithio ar gymwysiadau band eang y mae’n rhaid i S4C gael digon o amser i ddigideiddio a pharatoi’r tâp. Mae hefyd yn gwneud S4C yn atebol am gostau ychwanegol dan y cytundeb arwyddo.

Cytunodd TAC ac S4C y byddai cynhyrchwyr yn cael eu hannog dros y chwe mis nesaf i gynnwys mwy o amser yn eu hamserlenni ar gyfer y materion hyn ac i gadw at y dyddiad cyflwyno cytundebol. Bydd Comisiynwyr hefyd yn sicrhau bod y dyddiadau a nodir yn y cytundebau yn caniatáu cyfnod cymeradwyo digonol.

Mae angen cymeradwyaeth Rhys Parry ar gyfer unrhyw newid yn y dyddiad cyfleu terfynol. Dylid trafod unrhyw newid yn y cyfnodau cymeradwyo cyn hynny gyda’r Comisiynydd.

Bydd TAC yn rhoi gwybod i’w haelodau am yr angen i gadw at yr amserlen.


4. Adrodd ar Drafodaethau gyda’r Undebau (Eitem Agenda ar y Cyd)

Daethpwyd i gytundeb gyda’r Undebau mewn perthynas â’r cyfraddau ac meant wedi eu darparu i S4C (maent ar gael ar wefan TAC hefyd). Mewn perthynas â thelerau’r cytundeb gyda:-

BECTU – Mae trafodaethau ymhell ar y blaen. Cafodd S4C a BECTU gyfarfod ym mis Ionawr ac estynnwyd gwahoddiad i Delyth Wynne Griffiths fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gogledd a’r De.

Equity – Cynhaliwyd cyfarfod TAC/Equity cyn y Nadolig. Ar lefel genedlaethol, mae dau weithgor yn adolygu’r cytundeb. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i drafod hawliau sylfaenol ac eilradd ar wahân i amodau gwaith eraill. Trefnwyd y bydd S4C ac Equity yn cyfarfod ym mis Mawrth.

Urdd yr Awduron – mae TAC yn aros am ymateb oddi wrthynt gan eu bod ar ganol eu broses ymgynghori.

Undeb y Cerddorion – Mae trafodaethau’n parhau.


5. Ymwybyddiaeth yn y sector o’r Telerau Masnachu (Eitem Agenda S4C)

Nid yw nifer o aelodau bersonnel, ar bob lefel yn y sector, yn gyfarwydd â’r Telerau newydd. Er i gyfres o weithdai gael eu trefnu gan TAC y llynedd, mae angen trefnu sesiynau pellach i atgoffa pawb o’r telerau. Bydd TAC yn trefnu hyfforddiant pellach i’w haelodau.


6. Unrhyw faterion eraill

6.1 Cyfle - Mae gan S4C a TAC rôl wrth gyfathrebu cyfeiriad strategol ar y gofynion hyfforddi ar gyfer y sector. Bydd hyn yn sicrhau bod yr hyfforddiant a ddarperir yn unol ag anghenion, ac yn cynnig y gwerth gorau ar gyfer y buddsoddiad a wneir yn Cyfle.

6.2 Gofynnodd S4C am ddiweddariad ar y Codau Ymarfer a’r polisïau y mae TAC wedi’u paratoi ar ran eu haelodau. Mae’r rhain ar gael ar wefan TAC ac maent yn ymdrin â recriwtio, cyfle cyfartal a chanllawiau cyflogaeth eraill. Caiff rhestr o’r canllawiau’n ei rhoi i S4C.

6.3 Cynllun iaith Gymraeg - Mae S4C wrthi’n adolygu ei chynllun iaith Cymraeg. Er nad oes gofyniad cyfreithiol ar gwmnïau preifat i gael polisi iaith Cymraeg, mae S4C yn annog y sawl sydd â chytundeb â’r sianel i hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg mewn busnes. Mae’r cytundeb trwydded safonol yn mynnu bod cynhyrchwyr yn rhoi ystyriaeth i gynllun iaith Cymraeg S4C wrth gynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C.

Ar ôl ei chwblhau, bydd S4C yn rhannu ei gynllun iaith Cymraeg gyda TAC a bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i wneud datganiad o ymarfer da ar y cyd.

6.4 Tendro - Mae S4C wedi penderfynu (pan fydd amser yn caniatáu) i roi rhybudd ymlaen llaw o wahoddiadau i dendro sydd ar y gweill. Byddai hyn yn gymorth i gynhyrchwyr annibynnol wrth gynllunio’u gwaith.

Cyhoeddwyd rhybudd ymlaen llaw o dri thendr ar wefan S4C. Mae’r rhain yn cynnwys tendr animeiddio, cytundeb i gynhyrchu ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ am gyfnod o ddwy flynedd a thendr ar gyfer creu rhestr fer o gwmnïau i wneud cais am waith trosleisio ar animeiddiad a brynwyd gan S4C dros y ddwy flynedd nesaf.

6.5 Band Llydan - Nodwyd bod ‘Ffermio’, ‘Treflan’, ‘Caerdydd’, ‘Uned 5’, ‘Wedi 7’ ac ‘O’r Galon’ eisoes ar gael ar Fand Llydan. Darperir rhai o’r rhain ar weinydd trydydd parti a rhai trwy weinydd S4C.

Nodwyd bod ffordd dechnegol o gyfyngu’r gynulleidfa i’r DU os oes angen gwneud hynny am resymau hawliau.

Mae’r ffenestr band eang yn hyblyg – weithiau bydd S4C yn defnyddio’r 35 diwrnod yn llawn a llai ar adegau eraill, yn dibynnu ar y rhaglen.

Bu’r ymateb gan gynhyrchwyr yn dda iawn.


7. Cyfarfod nesaf

Bydd TAC yn cysylltu ag S4C i awgrymu dyddiadau.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales