CYHOEDDIAD
28-Chwe-2006
Wedi 15 mlynedd fel cynhyrchydd Planed Plant, mae Angharad Garlick yn gadael S4C ac yn ymuno â Grwp Boomerang fel uwch gynhyrchydd. Rydym yn ddiolchgar iawn i Angharad am gyfraniad nodedig i S4C ac yn dymuno pob lwc iddi ar gychwyn cyfnod cyffrous iawn yn ei gyrfa.
Yn sgil ymadawiad Angharad rydym wedi penderfynu ail strwythuro'r uned rhaglenni plant. Byddwn yn manteisio ar gryfderau'r staff presennol fydd yn ymgymryd â rhai o ddyletswyddau Angharad ac yn penodi cynhyrchydd newydd. Bydd hysbyseb yn ymddangos yr wythnos hon.
Byddwn hefyd yn pennu unigolyn o'r Adran Cyllid Rhaglenni i fod yn gyfrifol am ochr weinyddol a chyllidebol yr uned.
