Neidio at y cynnwys

S4C

CYTUNDEB ANIMEIDDIO - GWHODDIAD I DENDRO

01-Maw-2006

Ym mis Gorffennaf 2004 cyhoeddwyd Strategaeth Rhaglenni S4C ar gyfer cyfnod o bum mlynedd. Mae’r Strategaeth yn rhoi’r pwyslais ar greu gwasanaeth rhaglenni o safon eithriadol mewn partneriaeth â chynhyrchwyr sydd â’u bryd ar gyflawni rhagoriaeth greadigol. Mae S4C eisoes yn cydweithio mewn partneriaeth gyda chwmniau penodol er mwyn datblygu syniadau ar gyfer rhaglenni i wireddu’r Strategaeth ac mae S4C yn awr yn dymuno ehangu’r drefn hon ar gyfer cynyrch animeiddiedig. Ym maes animeiddio, y nod fydd nid yn unig ddatblygu syniadau ond hefyd i’w gwireddu a chynhyrchu rhaglenni neu gynnwys a fydd yn addas ar gyfer gwasanaeth S4C ar unrhyw blatfform.

Dylid danfon y ffurflen gais mewn ffurf electroneg YN UNIG i animeiddio@s4c.co.uk erbyn 12 o’r gloch ar y 19ed o Ebrill 2006.

Am fanylion pellach, cliciwch yma

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales