Neidio at y cynnwys

S4C

HYSBYSEB SWYDD - CYNHYRCHYDD

02-Maw-2006

SWYDD................SWYDD................SWYDD



CYNHYRCHYDD


Mae Adran Rhaglenni S4C yn chwilio am Gynhyrchydd i weithio ar Planed Plant Bach a Planed Plant.

Byddwch yn berson creadigol sy’n meddu ar sgiliau cynhyrchu cryf gan gynnwys cyfrifoldeb am ddarlledu byw, gwaith camera sengl, ceinciau amrywiol yn ogystal â gofal am gadw o fewn cyllideb benodol.

Dylai fod gennych sgiliau cyfathrebu da ynghyd â’r gallu i weithio dan bwysau wrth warchod sawl prosiect sy’n cyd-redeg.

Byddwch yn rhan o dîm cynhyrchu sy’n creu deunydd gwreiddiol a chyffrous ar gyfer gwylwyr y ddau slot dyddiol, felly mae ymwybyddiaeth o ddiwylliant plant a phobl ifanc yn angenrheidiol. Bydd angen i chi fod yn ddigon hyderus a rhugl yn y Gymraeg er mwyn gosod safonau cadarn ar gynnyrch yr Adran i sicrhau eich bod yn gweithredu o fewn canllawiau iaith rhaglenni S4C a chanllawiau cydymffurfiaeth y Sianel.

Mae’n ofynnol fod gennych gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) mewn Diogelwch Cynyrchiadau ar raddfa 3 (X3) neu eich bod yn ymrywmo i gwblhau’r cymhwyster yn ystod cyfnod penodol fel amod o’ch penodiad. Bydd unrhyw benodiad yn amodol ar dderbyn cadarnhad gan yr awdurdodau priodol eich bod yn gymwys i weithio gyda phlant.

Cytundeb: 12 mis.
Cyflog: Yn unol â phrofiad.
Dyddiad cau: 22 Mawrth 2006

Am fanylion pellach cysylltwch â Claire Thomas, Swyddog Adnoddau Dynol, S4C ar 02920 741301 neu claire.thomas@s4c.co.uk.


Gweithredir Polisi Cyfle Cyfartal


© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales