ROWND A ROWND - CYTUNDEB £8 MILIWN
20-Maw-2006
Mae dwy gyfres newydd o’r gyfres ddrama i bobl ifanc, Rownd a Rownd, wedi cael eu comisiynu gan S4C mewn cytundeb tair blynedd gwerth £8 miliwn gyda chynhyrchwyr y gyfres, cwmni teledu Nant sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon a Chaerdydd.
Cynhyrchir 80 pennod hanner awr, yn cynnwys rhaglenni Nadolig arbennig, o ganlyniad i’r cytundeb newydd. Bydd y cwmni unwaith eto yn cydweithio gyda sylfaenydd Grange Hill, Phil Redmond, a weithiodd fel ymgynghorydd yn gyntaf gyda Nant ac S4C ym 1995, ar lansiad Rownd a Rownd.
Mae’r gyfres arobryn yn cael ei ffilmio’n gyfan gwbl ar leoliad ar set a adeiladwyd yn arbennig yn nhref Porthaethwy ar Ynys Môn.
Darlledir y ddrama, sy’n dilyn bywydau grŵp o blant - a’u teuluoedd -sy’n gweithio ar rownd bapur, ar nosweithiau Llun a Mercher am 6.30pm, gyda rhifynnau omnibws yn ogystal.
Meddai Meirion Davies, Comisiynydd Adloniant S4C, “Bydd y cytundeb tair blynedd newydd yn galluogi Nant i atgyfnerthu un o gyfresi mwyaf blaenllaw’r Sianel.
“Y dyhead yw cael drama nid sebon, sydd yn golygu wrth gwrs mwy o ddigwyddiadau,
cymeriadau cryfach a dweud stori atyniadol sy’n afieithus! Mae tîm hynod o dalentog yn barod i dderbyn yr her, gan gynnwys awduron ifanc y gyfres a’r cast.”
Meddai Uwch Gynhyrchydd Rownd a Rownd, Sue Waters, “Mae hyn yn newyddion da iawn ar gyfer y cwmni, y cast a’r criw ac ardal Porthaethwy.”
Meddai Phil Redmond, “Mae Rownd a Rownd yn delio â’r un maes â Grange Hill a Hollyoaks felly rwyf yn falch o adnewyddu fy nghysylltiad â’r rhaglen ar ei degfed pen-blwydd. Rwyf hefyd yn falch fod S4C yn parhau â‘i hymrwymiad i raglenni cynhenid ar gyfer pobl ifanc sy’n gwerthsefyll y llif o raglenni wedi’u prynu o wledydd eraill sydd â gwerthoedd diwylliannol gwahanol. Mae plant yn mwynhau’r arlwy yma ond mae llawer gwell ganddynt y rhaglenni sy’n adlewyrchu eu bywydau a’u profiadau eu hunain.”
