DOGFEN YN DILYN DAVID DAVIES AT YR AUR
21-Maw-2006
Ddydd Sul (26 Mawrth), ar ddiwrnod olaf y cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad 2006, bydd S4C yn darlledu rhaglen ddogfen arbennig, Pwll Aur David Davies, fydd dilyn y nofiwr David Davies wrth iddo baratoi i ennill ei fedal aur gyntaf.
Gwireddodd David ei freuddwyd o droi efydd y Gemau Olympaidd yn aur y Gymanwlad, ac ennill ail fedal aur Cymru, gyda buddugoliaeth gyfforddus yn y ras 1500 metr dull rhydd ym Melbourne.
Caniataodd y nofiwr o’r Barri i’r cyflwynydd Brychan Llyr a chamerâu Boomerang ddilyn ei baratoadau dros y misoedd yn arwain at Gemau’r Gymanwlad. Bydd y rhaglen yn ei ddangos ym mhentre’r athletwyr ym Melbourne ac yn cynnwys deunydd o’i ras fuddugoliaethus. Cawn gip ar ei sesiynau ymarfer dwys gyda’i hyfforddwr Dave Haller; ras 400m ragbaratoawl yn Abertawe; sesiynau ffotograffiaeth er mwyn hyrwyddo ei gytundeb gyda Speedo yn ogystal ag ymddangosiadau ar raglenni teledu amrywiol.
Mae David, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 21ain draw ym Melbourne, hefyd yn gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Dinas Caerdydd a down i adnabod ei deulu, ei ffrindiau a’i gefnogwyr hefyd yn y rhaglen. Mae ei gariad hefyd yn nofwraig o fri a theithiodd hithau i Felbourne i gystadlu gyda thîm Cymru.
“Mae’n ymddangos yn foi tawel a swil pan fo rhywun yn ei gyfarfod gyntaf ond fel y daw rhywun i’w adnabod mae’n amlwg ei fod yn berson hyderus. Mae yma benderfyniad a rhuddin,” meddai cynhyrchydd y rhaglen, Huw Williams.
“Yn ôl ei hyfforddwr Dave Haller sydd yn wir arbenigwr ym myd hyfforddi nofwyr ac wedi gweithio gyda phencampwyr Olympaidd fel David Wilkie a Duncan Goodhew, mae David Davies ymysg y gorau mae o erioed wedi ei hyfforddi. Yn wir, mae’n dal i ddatblygu ac i wella ac erbyn y Gemau Olympaidd nesaf yn Beijing yn 2008 y nod yw y bydd David yn barod i gyflawni ei lawn botensial.”
Ar hyn o bryd David Davies yw’r cyflymaf trwy’r byd am nofio y rhan olaf o’r ras 1500 metr dull rhydd - ac mae’r hyfforddiant hyd yma eleni wedi bod yn canolbwyntio ar gryfhau ei dechneg dros ran gyntaf y ras. “Chwe diwrnod yr wythnos mae’n codi am 5.00 bob bore er mwyn bod i lawr yn y pwll yn Abertawe neu Gaerdydd ar gyfer sesiwn ymarfer o dros ddwy awr a hanner. Yna, bydd yn dychwelyd i’r pwll am ddwy awr arall o ymarfer dwys yn y prynhawn. Mae’n hollol ymroddedig ac yn haeddu pob llwyddiant,” ychwanega Huw.
Pwll Aur David Davies
Nos Sul, 26 Mawrth, 9.00pm, S4C gydag isdeitlau Saesneg ar gael
Ail-ddarllediad nos Sul, 2 Ebrill, 7.30pm gydag is-deitlau Saesneg ar y sgrîn
