Neidio at y cynnwys

S4C

CYNLLUN YSWIRIANT S4C

22-Maw-2006

Mi fydd swyddfa AON yng Nghaerdydd yn cau ar 30 Mehefin 2006 a'r gwasanaeth yn cael ei throsglwyddo i swyddfeydd AON ym Mryste. Ni fydd newid yn y gwasanaeth a gynigir i gwmniau sy'n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C ond fe fydd newid personel. Y Cyfarwyddwr Cleient a fydd yng nghofal gwasanaeth S4C o hyn ymlaen fydd Stuart Hutchings a gellir cysylltu ag ef ar 0117 948 5001. Y mae Tim Mallett wedi gadael y cwmni yr wythnos hon a bydd ei waith ef fel Ymgynghorydd yn cael ei wneud gan Hannah Boulton (rhif ffôn 0117 9485 089). Gellir cysylltu gyda John Parsons yng Nghaerdydd tan 30 Mehefin 2006 ar 029 2080 1811. Bydd AON yn apwyntio Ymgynghorydd i gymryd lle John ac fe fydd y manylion hynny yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales