Neidio at y cynnwys

S4C

PENODIAD CADEIRYDD NEWYDD S4C

27-Maw-2006

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Tessa Jowell wedi penodi John Walter Jones OBE yn Gadeirydd newydd Awdurdod S4C. Hyd tymor y penodiad yw pedair blynedd, o 1 Ebrill 2006 i 31 Mawrth 2010.

Mae John Walter Jones yn cymryd yr awennau oddi wrth Elan Closs Stephens, sy’n gadael ddiwedd Mawrth ar ôl wyth mlynedd yn ei swydd.

Mae John ar hyn o bryd yn aelod o Awdurdod S4C. Bu’n Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1988 a’i ymddeoliad yn 2004. Mae’n aelod o Bwyllgor Llywio Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 ac yn gefnogwr brwd o’r Mudiad Ysgolion Meithrin. Bu John yn aelod o Banel Gwylwyr yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn cynghori ar y trosglwyddo i deledu digidol.

Urddwyd John yn aelod o’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004.

Meddai John Walter Jones, “Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar gyfraniad aruthrol Elan Closs Stephens i S4C. Yn ystod fy nghyfnod fel Cadeirydd bydd llawer o gyfleoedd i S4C ond rwy’n cydnabod hefyd y byddwn ni’n wynebu cwestiynau heriol. Yn yr amgylchedd dra newidiol hon, bydd Awdurdod S4C yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cwrdd â disgwyliadau ein cynulleidfaoedd.”

Meddai Tessa Jowell, “Rwyf wrth fy modd bod John wedi cytuno i fod yn Gadeirydd newydd S4C. Bydd ei ymroddiad i’r sianel ac i’r iaith Gymraeg yn sicrhau bod S4C yn parhau i ddarparu gwasanaeth hollbwysig i bobl Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio ag ef.

“A hoffwn i hefyd ddiolch i ragflaenydd John, Elan Closs Stephens, am ei gwaith caled a’i hymroddiad hi dros yr wyth mlynedd diwethaf. Ni ellir gorbwysleiso ei chyfraniad i faterion Cymreig ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddi yn ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Nid yw John Walter Jones wedi ymgymryd ag unrhyw weithgaredd gwleidyddol arwyddocaol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales