HYSBYSEB SWYDD - CYNHYRCHYDD, DYDDIAD CAU 10 EBRILL 2006
29-Maw-2006
CYNHYRCHYDD
(Ail hysbyseb)
Mae Adran Rhaglenni S4C yn chwilio am Gynhyrchydd i weithio ar Planed Plant Bach a Planed Plant.
Byddwch yn berson creadigol sy’n meddu ar sgiliau cynhyrchu cryf gan gynnwys cyfrifoldeb am ddarlledu byw, gwaith camera sengl, ceinciau amrywiol yn ogystal â gofal am gadw o fewn cyllideb benodol.
Dylai fod gennych sgiliau cyfathrebu da ynghyd â’r gallu i weithio dan bwysau wrth warchod sawl prosiect sy’n cyd-redeg.
Byddwch yn rhan o dîm cynhyrchu sy’n creu deunydd gwreiddiol a chyffrous ar gyfer gwylwyr y ddau slot dyddiol, felly mae ymwybyddiaeth o ddiwylliant plant a phobl ifanc yn angenrheidiol. Bydd angen i chi fod yn ddigon hyderus a rhugl yn y Gymraeg er mwyn gosod safonau cadarn ar gynnyrch yr Adran i sicrhau eich bod yn gweithredu o fewn canllawiau iaith rhaglenni S4C a chanllawiau cydymffurfiaeth y Sianel.
Mae’n ofynnol fod gennych gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) mewn Diogelwch Cynyrchiadau ar raddfa 3 (X3) neu eich bod yn ymrywmo i gwblhau’r cymhwyster yn ystod cyfnod penodol fel amod o’ch penodiad. Bydd unrhyw benodiad yn amodol ar dderbyn cadarnhad gan yr awdurdodau priodol eich bod yn gymwys i weithio gyda phlant.
Cytundeb: 12 mis.
Cyflog: Yn unol â phrofiad.
Dyddiad cau: 10 Ebrill 2006
Am fanylion pellach cysylltwch â Claire Thomas, Swyddog Adnoddau Dynol, S4C.
Gweithredir Polisi Cyfle Cyfartal
(The above is an advertisement for the post of Producer at S4C. The ability to communicate in Welsh and English is essential for this post.)
