GWOBR I RAGLEN DDOGFEN
29-Maw-2006
Mae drama ddogfen gyffrous yn olrhain taith olaf llong y Karluk i’r Arctig yn 1913 ac anturiaethau’r morwr o Ynys Môn, Huw Williams wedi ennill gwobr i S4C a Cwmni Da mewn gŵyl ffilm ym Mharis.
Cipiodd Yn y Pacrew - Taith Olaf y Karluk wobr y Jules Verne Adventure Film Festival am y Ffilm Orau, yn wyneb cystadleuaeth chwyrn gan 12 ffilm arall o wledydd ar draws y byd.
Mae’r rhaglen 60 munud o hyd yn olrhain hanes criw’r Karluk a hwyliodd i lan orllewinol Canada ar fenter wedi’i chefnogi gan lywodraeth Canada i archwilio’r Arctig. Wedi i’r Karluk hwylio’n bell i’r gogledd, trwy Gulfor Bering, fe aeth y llong yn sownd yn y rhew ar 11 Awst, 1913 dim ond deuddydd i ffwrdd o’i chyrchfan.
Wrth i grafangau’r gaeaf gydio, fe aeth pethau o ddrwg i waeth. Gadawodd rhai aelodau o’r criw a cheisio am y tir mawr, tra suddodd y llong, wedi’i hollti gan y pacrew. Penderfynodd y capten a’r rheiny oedd ar ôl mai’r gobaith gorau fyddai anelu at ynys fechan anghysbell, gan milltir i ffwrdd ar draws y rhew. Roedd eu hymdrech yn anhygoel. Gyda’r tymheredd yn amrywio rhwng –40°C a –50°C llwyddodd y criw i gyrraedd yr ynys ac fe’u hachubwyd.
Mae’r rhaglen, sy’n gydgynhyrchiad rhwng S4C a History Television Canada wedi ei chynhyrchu ar gyfer S4C gan Cwmni Da o Gaernarfon a Kaizen West o Edmonton yng Nghanada. Wedi ei ffilmio ar leoliad yn yr Artig mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys deunydd anhygoel o’r archif o’r Karluk wedi’i chaethiwo yn y rhew ac o’r criw yn cael eu hachub.
Roedd Gwyn Williams o Cwmni Da yn Theatr y Grand Rex ym Mharis i dderbyn y wobr. "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr hon,” meddai. “Mae’r stori ryfeddol hon o ddyfalbarhad, dioddefaint a gwroldeb wrth i griw’r Karluk wyneb gerwindeb gaeaf yr Arctig yn gaeth ar y pacrew yn stori sy’n haeddu cael ei dweud.”
Diwedd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Hannah Thomas neu Eurgain Haf ar 029 20 741454
Nodiadau ychwanegol
Sefydlwyd Gwyl Ffilm Jules Verne Adventure yn 1992 gan ddau wneuthurwr ffilm Ffrengig, Jean-Christophe Jeauffre a Frédéric Dieudonné.
