Neidio at y cynnwys

S4C

GWOBRAU GWYL FFILM A THELEDU GELTAIDD 2006

04-Ebr-2006

Mae S4C wedi cipio dwy o brif wobrau Gwyl Ffilm a Theledu Geltaidd 2006, a gynhaliwyd eleni yng Nghernyw.

Enillodd y ddrama ddogfen Gêm y Ganrif, sy’n ail-greu buddugoliaeth tîm rygbi Cymru o 3-0 yn erbyn Seland Newydd, wobr fawr Ysbryd yr Wyl.

Wedi ei chynhyrchu gan gwmni Green Bay ar gyfer S4C, mae’r rhaglen yn defnyddio’r dechnoleg CGI diweddaraf i ail-greu’r dorf o 47,000 a fynychodd y gêm fawr a gynhaliwyd yn Mharc yr Arfau, Caerdydd ar 16 Rhagfyr 1905. Mae’r gêm hon yn parhau i fod yn un o dair buddugoliaeth brin tîm Cymru yn erbyn Seland Newydd erioed.

Enillodd drama S4C, Con Passionate, wobr hefyd, gan guro Dr. Who i ennill gwobr cyfres ddrama orau’r Wyl.

Wedi ei chynhyrchu i S4C gan Apollo, mae ail gyfres y drama boblogaidd hon, sy’n dilyn helyntion côr meibion a’u harweinyddes, newydd ddechrau ar S4C.

Dywedodd beirniaid yr Wyl fod Con Passionate yn “llawn cyffro a doniolwch” ac y byddai’n “diddori cynulleidfaoedd am amser hir iawn”. Am Gêm y Ganrif, dywedasant ei bod yn "ail-greu eiliadau sydd wedi dod yn rhan o fytholeg cenedl,” a bod y ffilm yn “dathlu ysbryd Cymru ac ysbryd gêm sy’n uno ac yn cyfareddu’r holl wledydd Celtaidd.”

Mae DVDs Gêm y Ganrif – yn Gymraeg neu yn Saesneg – ar werth mewn siopau dethol trwy Gymru. Darlledir Con Passionate bob nos Sul ar S4C am 9.00pm, gydag ail-ddarllediad bob nos Fawrth am 10.00pm. Mae is-deitlau Saesneg ar gael.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales