GWOBRAU BAFTA CYMRU 2005
24-Ebr-2006
Enillodd rhaglenni S4C 13 o wobrau yn seremoni nos Sadwrn Bafta Cymru, gan gynnwys y tlws am Y Golygydd Gorau, a wobrwywyd i Wendy Richards, a fu farw'r llynedd, am y gyfres ddrama Con Passionate (Apollo).
Enillodd rhaglen a gynhyrchwyd gan BBC Cymru i S4C, y portread o’r diweddar Gwynfor Evans, Gwynfor Yr Aelod Dros Gymru?, Wobr Gwyn Alf Williams, sy’n cael ei dyfarnu i’r rhaglen neu gyfres ddogfen sy’n cyfrannu orau at ddealltwriaeth o hanes Cymru.
Llwyddodd Popeth yn Gymraeg (Cwmni Da), cyfres gyda’r bardd Ifor ap Glyn yn teithio bob cwr o Gymru yn cyflawni gwahanol dasgau heb droi unwaith at y Saesneg, i ennill y categori Rhaglen Nodwedd Orau.
Enillodd y rhaglen ddogfen bwerus Nôl i Ethiopia (ITV Cymru), a gyflwynwyd gan y newyddiadurwr Tweli Griffiths, a ddychwelodd i Ethiopia ar ôl ugain mlynedd i chwilio am blentyn a gyfarfu yno wrth ohebu yn ystod y newyn mawr, y wobr am Y Materion Cyfoes Gorau.
Cipiodd y rhaglen ddogfen Codi Angor (Fresh Catch), a oedd yn olrhain bywyd priodasol anarferol Ray Lein a Siân Roderick, y wobr am Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau.
Enillodd y sioe gylchgrawn i bobl ifanc, Uned 5 (Antena) ddwy wobr, Y Rhaglen Ieuenctid Orau a’r Newydd Ddyfodiad Gorau, a ddyfarnwyd i’r gyflwynwraig Mari Lovgreen. Enillodd gwefan liwgar ar gyfer y gyfres feithrin Meees (Cynhyrchiadau Ceidiog), a werthwyd yn ddiweddar i’r sianel Arabeg al-Jazeera, y wobr am Y Cyfryngau Newydd Gorau o Fewn Ffilm neu Deledu.
Jonathan (Avanti i BBC Cymru), y sioe siarad fywiog a gyflwynir gan Jonathan Davies, a enillodd y wobr am Yr Adloniant Ysgafn Gorau. Enillodd Y Clwb Rygbi Cymru v Iwerddon (BBC Cymru) y wobr am Y Criw Byw/OB Gorau.
Enillodd y ffilm Y Lleill (Crymi) y wobr am Y Ffilm Orau. Aeth y wobr am Y Sain Gorau i ddarllediad S4C o Gala Operatig Gŵyl y Faenol (IMG). Enillodd prif raglen adloniant Dydd Nadolig S4C, Nadolig Aled (Presentable Productions), y wobr am Y Cyfarwyddwr Goleuo Gorau – Dim Camera.
Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae’r gwobrau hyn yn cynrychioli cryfder creadigol y sector annibynnol a’n partneriaid yn BBC Cymru, ar draws ystod o gategorïau. Rwy’n diolch iddyn nhw ac i staff S4C am sicrhau llwyddiant i’r gwasanaeth yng ngwobrau Bafta Cymru eleni.”
RHESTR GYFLAWN O WOBRAU BAFTA CYMRU S4C
1. Y Cyfryngau Newydd Gorau o Fewn Ffilm neu Deledu
Meees – Rachel Van Koningsveld/Paul Atkins
2. Rhaglen Ieuenctid Orau
Uned 5 – Nest Griffith
3. Y Criw Byw/OB Gorau
Y Clwb Rygbi Cymru v Iwerddon – BBC Cymru/Wales Chwaraeon Sport
4. Y Trac Sain Gerddorol Wreiddiol Orau
Codi Angor – Map
5. Y Materion Cyfoes Gorau
Nôl i Ethiopia – Tweli Griffiths
6. Y Cyfarwyddwr Goleuo Gorau – Dim Camera
Nadolig Aled – Martin Kempton
7. Yr Adloniant Ysgafn Gorau
Jonathan Grand Slam – Emyr Afan/Matthew Tune
8. Y Rhaglen Nodwedd Orau
Popeth yn Gymraeg – Ifor ap Glyn
9. Gwobr Gwyn Alf Williams
Gwynfor Yr Aelod dros Gymru? – Dinah Jones
10. Y Sain Gorau
Gala Operatig Gŵyl y Faenol – Owen Thomas
11. Y Golygydd Gorau
Con Passionate – Wendy Richards
12 Y Newydd Ddyfodiad Gorau
Uned 5 – Mari Lovgreen
13. Y Ffilm Orau
Y Lleill – The Others – Emyr Glyn Williams

