SIARTR LLYTHRENNEDD YN Y CYFRYNGAU

02-Mai-2006

Mae S4C wedi arwyddo'r Siartr Llythrennedd yn y Cyfryngau. Prif bwrpas y Siartr yw codi proffil llythrennedd yn y cyfryngau fel portffolio pwysig o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen ar bob dinesydd yn yr unfed ganrif ar hugain.


SIARTR LLYTHRENNEDD YN Y CYFRYNGAU

Mae’r cyfryngau yn rhoi dulliau mynegiant hynod a bywiog i ni; maent yn ffynhonnell gwybodaeth, barn a straeon hollbwysig a byd-eang; ac yn llunio rhan bwysig o’n treftadaeth ddiwylliannol.
Os yw pobl am chwarae rhan lawn ac effeithiol yn y byd sydd ohoni heddiw, mae angen iddynt fod yn llythrennog ym mhob ffurf o’r cyfryngau.
Rydym yn ymrwymedig i amcanion ac egwyddorion y Siartr hon ac i ddadlau dros, a datblygu, Teyrnas Unedig sydd yn llythrennog yn y cyfryngau.
1) Rydym yn ymrwymedig i:
· Godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd am lythrennedd yn y cyfryngau, mewn perthynas â chyfryngau cyfathrebu, gwybodaeth a mynegiant;
· Dadlau dros bwysigrwydd bod yn llythrennog yn y cyfryngau wrth ddatblygu polisi addysg, diwylliant, gwleidyddiaeth, cymdeithas ac economeg;
· Cefnogi’r egwyddor y dylai holl ddinasyddion y DU, o bob oed, gael y cyfle, drwy addysg ffurfiol ac anffurfiol, i ddatblygu’r sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol i gynyddu eu mwynhad, dealltwriaeth ac archwiliad o’r cyfryngau.

2) Rydym yn credu y dylai pobl sy’n llythrennog yn y cyfryngau fod yn gallu:
· Defnyddio technolegau’r cyfryngau yn effeithiol i gael gafael ar gynnwys, ei storio, ei adalw a’i rannu i ddiwallu eu hanghenion a diddordebau hwy eu hunain a’r gymuned;
· Cael gafael ar, a gwneud dewisiadau deallus am, amrywiaeth eang o ffurfiau a chynnwys cyfryngau o wahanol ffynonellau diwylliannol a sefydliadol;
· Deall sut a pham y cynhyrchir cynnwys cyfryngau, a’r cyd-destun technolegol, cyfreithiol, economaidd a gwleidyddol am hynny;
· Gwneud dadansoddiad beirniadol o’r technegau, iaith a chonfensiynau a ddefnyddir gan y cyfryngau, a’r negeseuon y maent yn eu cyfleu;
· Defnyddio cyfryngau yn greadigol i fynegi a chyfathrebu syniadau, gwybodaeth a barn;
· Adnabod, ac osgoi neu herio cynnwys a gwasanaethau cyfryngau na ofynnwyd amdanynt, neu’n sydd yn achosi tramgwydd neu sy’n niweidiol;
· Gwneud defnydd effeithiol o’r cyfryngau wrth weithredu eu hawliau democrataidd a’u cyfrifoldebau dinesig.
3) Byddwn yn helpu i ddatblygu poblogaeth sy’n llythrennog yn y cyfryngau yn y DU drwy annog, galluogi neu gynnig cyfleoedd i bobl i:
· Ehangu eu profiad o wahanol ffurfiau a chynnwys cyfryngau;
· Datblygu sgiliau beirniadol mewn dadansoddi ac asesu’r cyfryngau;
· Datblygu sgiliau creadigol mewn defnyddio cyfryngau i fynegi a chyfathrebu a chymryd rhan mewn pynciau trafod cyhoeddus;
Rydym yn hynod falch y bydd ein Sefydliad yn cael ei restru fel un o lofnodwyr y Siartr.

Cymalau ychwanegol:
Yn ogystal, fel darparwr gweithgareddau sydd yn hybu llythrennedd yn y cyfryngau yn uniongyrchol:
4) Rydym yn addo cefnogi neu gymryd rhan mewn ymchwil a fydd yn adnabod a datblygu:
· Gwell dealltwriaeth o’r hyn a olygir gan lythrennedd yn y cyfryngau;
· Addysg effeithiol a chynaladwy am lythrennedd yn y cyfryngau;
· Dulliau gwerthuso a meini prawf asesu trosglwyddadwy ar gyfer llythrennedd yn y cyfryngau.

5) Rydym yn cytuno i ymgymryd â’r canlynol, neu i alluogi eraill i ymgymryd ag:
· Adeiladu cysylltiadau â llofnodwyr eraill a chyfrannu at dwf rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer llythrennedd cyfryngau;
· Canfod a rhannu tystiolaeth am ganlyniadau mentrau llythrennedd cyfryngau yr ydym yn eu cynnal neu yr ydym yn gysylltiedig â hwy;
· Gweithio i wneud cynnwys ar gael yn gyfreithlon ar gyfer dibenion addysg cyfryngau;
· Cyhoeddi cynllun gweithredu ar wefan y Siartr ar www.euromedialiteracy.net.