ASTUDIAETH - BYW BYWYDAU TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
14-Meh-2006
Fe gomisiynwyd prosiect ymchwil ar y cyd ar ddiwedd 2005 gan S4C, BBC Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac fe gynhaliwyd yr ymchwil gan gwmni Beaufort Research o Gaerdydd. Amcan y prosiect oedd edrych ar siaradwyr Cymraeg yn y grwp oedran 22-45 yn benodol, a'r graddau y maent yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Canfu’r arolwg fod gan siaradwyr Cymraeg yn y grŵp oedran hwn hefyd ddiddordeb mewn gwella eu Cymraeg.
Darganfuwyd bod i’r Gymraeg ddelwedd fwy cadarnhaol a’i bod mewn sefyllfa gryfach yn awr nac a fu erioed o’r blaen, gan felly greu awyrgylch fwy ffafriol ar gyfer defnyddio’r Gymraeg i raddau helaethach yn eu bywydau pob dydd.
Dynodwyd ffactorau megis rhuglder, hyder, cefndir ieithyddol y teulu, daearyddiaeth ac argaeledd ac ymwybyddiaeth o weithgareddau gwasanaethau Cymraeg fel prif bwyntiau sy’n cael effaith ar i ba raddau y mae pobl yn defnyddio’r iaith.
Mae’r arolwg yn cynnig nifer o argymhellion i’w hystyried yn y dyfodol, fel hyrwyddo a marchnata traws-gyfryngol gan ddefnyddio’r prif sianeli a chyfryngau Saesneg eu hiaith er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd a chodi proffil y celfyddydau a’r cyfryngau Cymraeg, a chynyddu dosbarthiad deunyddiau Cymraeg ym mhrif siopau’r stryd fawr.
Fel rhan o’r arolwg, rhannwyd y rhai a holwyd yn wahanol segmentau yn dibynnu ar eu hagwedd a’u profiad o ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae’r prosiect wedi cynorthwyo i adnabod mannau lle gall y pedwar corff gydweithio i dargedu grwpiau penodol o siaradwyr Cymraeg i hyrwyddo yr ystod o weithgareddau a gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu cyfranogiad.
Ar gyfer yr arolwg holwyd sampl o 861 o siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru yn ogystal â chyfres o gyfweliadau ansoddol dwys gyda 39 o siaradwyr Cymraeg.
Cliciwch yma i ddarllen yr ymchwil

