AVANTI YN ENNILL TENDR DECHRAU CANU DECHRAU CANMOL
03-Gorff-2006
Mae S4C wedi gwobrwyo cytundeb gwerth £2m i gwmni teledu Avanti yn y Rhondda i gynhyrchu’r gyfres canu emynau boblogaidd, Dechrau Canu Dechrau Canmol, un o gyfresi teledu mwyaf hirhoedlog y DU.
Bydd Avanti, a wobrwywyd y cytundeb yn dilyn proses dendro agored, yn gyfrifol am oddeutu deugain o raglenni bob blwyddyn dros gyfnod y cytundeb dwy flynedd o hyd.
Bydd gwaith cynhyrchu ar gyfres newydd o Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dechrau ym mis Gorffennaf. Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C yn yr hydref ac ar gael i wylwyr ar fand llydan am y tro cyntaf erioed.
Diwedd
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hannah Thomas ar 029 20 741451
2.7.06

