Neidio at y cynnwys

S4C

PROUD YN ENNILL TENDR BRANDIO S4C

05-Gorff-2006

Mae S4C wedi penodi Proud Creative i ymgymryd â’r gwaith o ailfrandio’r Sianel yn gyfan gwbl yn barod ar gyfer y newid i Ddigidol yng Nghymru yn 2009.

Wedi’i sefydlu gan gyn gyfarwyddwr creadigol Kemistry, Dan Witchell, yn 2005, fe ddewiswyd Proud o blith rhestr fer o bum cwmni a hynny ar ôl proses dendro gystadleuol.

Bydd Proud yn dechrau ar y prosiect ail-frandio yn syth bin, a bydd y gwaith yn cynnwys ail-frandio aml-lwyfan, ar y sgrin, oddi ar y sgrin ac ar-lein.

Fe gydweithiodd Proud yn agos â’r ymgynghorwyr onedotzero i ddewis detholiad o gyfarwyddwyr rhyngwladol i weithio ar y prosiect ail-frandio ac fe gynhyrchir y gwaith gan Rare, y cwmni cynhyrchu annibynnol sy’n gyfrifol am ail-frandio diweddaraf Channel 4.

Eglura Dan Witchell, “Roeddem am estyn confensiynau brandio sianel ac roedd llyfr bach du onedotzero yn cynnig rhestr o gyfarwyddwyr sy’n ymdrin yn fwy â ‘promos’ miwsig a hysbysebu.

“Mae creu tîm arbenigol yn rhoi’r gwerth gorau posibl i S4C; dyma gyfle go iawn i ddarparu rhywbeth gwirioneddol diddorol. Mae’r timau ar y ddwy ochr yn edrych ymlaen at weithio gyda’i gilydd i helpu hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru i gynulleidfa ryngwladol ehangach.”

Ychwanega Dylan Griffith, ymgynghorydd creadigol S4C, a fydd yn arwain y prosiect ailfrandio, “Mae record y tîm a dynnwyd ynghyd gan Proud Creative i ymgymryd â’r prosiect pwysig hwn yn ddi-guro. Roedd cynnig Proud yn unol ag uchelgais creadigol S4C ac rwy’n edrych ymalen at gyfnod o gydweithio llwyddiannus.”

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales