Neidio at y cynnwys

S4C

TENDR - LLIWIAU: "WORLD OF COLOURS"

05-Gorff-2006

Gwahoddir ceisiadau gan gwmnïau i gynhyrchu fersiwn Gymraeg o’r gyfres “Lliwiau” (“World of Colours”) sydd yn gyd-gynhyrchiad gyda Gedeon (Paris) ac Electric Pictures (Perth, Awstralia). Cyfres ddogfen/nodwedd yw hon fydd yn edrych ar y testun ‘lliw’ mewn ffordd thematig - yn ddiwylliannol, yn wyddonol, ac yn seicolegol. Bydd yn gyfres o 3 x 60’ ac yn cael ei saethu ar Fanylder Uwch (HD).

Mae “lliwiau” yn destun gweledol sy’n croesi ffiniau diwylliannol ac yn pontio rhwng gwyddoniaeth a’r celfyddydau, ac felly’n cynnig ei hun i ddehongliad a thriniaeth gyffrous o safbwynt steil a chynnwys. Rydym yn chwilio am gyfres sy’n cynnig rhywbeth newydd i bawb, ac yn plesio’r cynulleidfaoedd hamddenol, deallusol a blaengar. Rydym am gyfres sy’n delio gyda syniadau mewn amryw feysydd mewn iaith rwydd a chyfoes.

Disgwyliwn y bydd cyflwynydd yn fanteisiol i’r fersiwn Gymraeg, a byddwn ni yn S4C am fod yn rhan o’r drafodaeth am y dewis o gyflwynydd. Mae’n debygol y bydd y fersiynu Cymraeg yn golygu teithio i nifer o leoliadau byd-eang. Mae’r cynhyrchiad rhyngwladol yn saethu rhwng Hydref 2006 a Mawrth 2007. Amserlen ôl-gynhyrchu‘r cynhyrchiadau Ffrengig, Awstralaidd a rhyngwladol yw mis Mawrth - Rhagfyr 2007, felly disgwyliwn y bydd y fersiwn Gymraeg yn cael ei chyfleu yn chwarter cyntaf 2008.

Mae cyd-gynhyrchiadau ffeithiol yn chwarae rôl bwysig yn Strategaeth Raglenni S4C: maen nhw’n ein cynorthwyo i gynnig golwg fyd-eang i’n cynulleidfa, tra’n ymgeisio at y gwerthoedd cynhyrchu uchaf. Disgwylir i’r gyfres “Lliwiau” fod yn uchelfan yn yr amserlen ar gyfer 2008. Mae Strategaeth Raglenni S4C wedi blaenoriaethu rhagoriaeth safon fel nod i unrhyw gynhyrchiad ar y sianel ac mi fydd disgwyl i’r cwmnïau cynhyrchu brofi eu bod yn deall y pwyslais hwn ac ymateb yn greadigol i’r testun.

Mae gwaith yn parhau ar y triniaethau terfynol ar hyn o bryd, ond bydd crynodebau ar gael drwy gysylltu â tendr@s4c.co.uk o Orffennaf 12fed ymlaen. Disgwylir i’r cwmni cynhyrchu Cymraeg ddangos y gall weithio’n greadigol gyda’r partneriaid yn Ffrainc ac Awstralia, gan fanteisio ar y cyfle i osod y cyflwynydd Cymraeg yn gyffyrddus yng nghanol y deunydd rhyngwladol. Disgwylir hefyd y gall fod elfennau golygyddol Cymreig i’w cyfrannu neu’u hychwanegu y tu hwnt i’r sgript gyflwyno a sylwebaeth.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales