HUW ROSSITER - CYFARWYDDWR CYFATHREBU NEWYDD S4C
17-Gorff-2006
Mae S4C wedi penodi Huw Rossiter i’r swydd newydd Cyfarwyddwr Cyfathrebu, a fydd yn atebol i’r Prif Weithredwr, Iona Jones.
Ac yntau’n gweithio fel Pennaeth Cyfathrebu Darlledu gydag Ofcom ar hyn o bryd, fe fydd yn gyfrifol am strategaeth gyfathrebu'r Sianel wrth i Gymru baratoi ar gyfer y newid llwyr i ddigidol o 2009 ymlaen. Fe fydd yn aelod o Dim Rheoli S4C, gan oruchwylio marchnata, y wasg, cyfathrebu mewnol a holl gyhoeddiadau’r we. Fe fydd yn dechrau yn ei swydd yn yr hydref.
Fe ymunodd Huw Rossiter, 51, ag Ofcom fel Pennaeth Cyfathrebu ym mis Medi 2003 i fod yn rhan o’r paratoadau ar gyfer lansio corff rheoleiddio cyfathrebu newydd y Deyrnas Unedig. Ers hynny bu’n arwain y gwaith cysylltiadau cyhoeddus yn gysylltiedig â materion polisi, gan gynnwys adolygiad statudol Ofcom o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus teledu a’r ymgynghoriadau diweddar o’r sector gynhyrchu teledu a hysbysebu bwyd ar deledu i blant.
Bu’n Bennaeth Materion Cyhoeddus gyda’r Comisiwn Teledu Annibynnol (ITC), gan gyfrannu i waith yr ITC yn ymdrin â Deddf Gyfathrebiadau 2003.
Rhwng1992 a 2001, bu’ n Bennaeth y Wasg a Chyhoeddusrwydd gyda BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd, ar ôl treulio’r 10 mlynedd flaenorol fel swyddog cyhoeddusrwydd gyda’r BBC yn Llundain. Fe ddechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr gyda phapur y South Wales Evening Post yn Abertawe.
Fe aned Huw yng Nglyn-nedd a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Rhydfelen a Phrifysgol Cymru, Abertawe.
Meddai Iona Jones, “Mae hyrwyddo effeithiol o frand S4C yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer S4C yn yr oes aml-sianel hon. Mae profiad eang Huw yn y maes cyfathrebu yn cynnig arbenigedd pellach i dîm rheoli S4C.”
Meddai Huw Rossiter: “Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu i gynlluniau uchelgeisiol S4C i wasanaethu cynulleidfa Gymraeg ei hiaith ar hyd holl ystod y llwyfannau digidol.”
