Neidio at y cynnwys

S4C

CYNGERDD JONES JONES JONES

18-Gorff-2006

A FYDD JONESIAID CYMRU YN CURO NORBERGIAID SWEDEN?

Ym Mlaenau Ffestiniog yfory (19 Gorffennaf 2006) bydd S4C yn cyhoeddi ei bwriad i gynnal y cyfarfod mwyaf o Jonesiaid yn y byd, gan dorri record Guinness y Byd am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl sy’n rhannu’r un cyfenw.

Mae S4C yn gobeithio llenwi Canolfan Mileniwm Cymru – sy’n dal 1600 o bobl – gyda chynulleidfa o Jonesiaid ar gyfer sioe gyda llu o Jonesiaid enwog, er mwyn torri’r record, a ddelir ar hyn o bryd gan Sweden ar gyfer criw o 583 o bobl yn rhannu’r cyfenw Norberg.

Mae’r Sianel yn gobeithio y bydd rhai o drigolion Blaenau, sy’n gartref i’r canran uchaf o Jonesiaid yn y DU, yn teithio i Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd i gymryd rhan yn y digwyddiad hanesyddol – a elwir Jones Jones Jones - ar 3 Tachwedd.

Yn ystod y sioe, bydd y gynulleidfa yn cael ei diddanu gan berfformiadau cerddoriaeth, dawns a chomedi, ymddangosiadau gan westeion arbennig a chystadlaethau. Bydd swyddogion Guinness hefyd yn bresennol i oruchwylio’r ymgais i dorri’r record.

Mae Jones Jones Jones yn cael ei chynhyrchu i S4C gan gwmni teledu Cwmni Da, sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon, a bydd yn cael ei darlledu ar S4C ychydig wythnosau ar ôl y digwyddiad ei hun.

Mae Comisiynydd Adloniant S4C, Meirion Davies, yn hyderus y bydd y record yn cael ei thorri gan Jonesiaid niferus Cymru. Meddai, “Dyma gyfle unigryw i roi tro ar dorri record byd – wy’n gobeithio y bydd y Joneisiad yn tyrru i Gaerdydd!”

Meddai Neville Hughes o Gwmni Da, un o gynhyrchwyr y noson, “Ma’ ‘na lwyth o dalent ymysg ‘llwyth y Jonesiaid’ - meddyliwch am y peth! ‘Da ni’n trio hel gymaint ohonyn nhw ag sy’n bosib, o sawl maes, o bob rhan o Gymru a’r byd, i ddod i’r digwyddiad hanesyddol yma er mwyn helpu torri’r record ond hefyd i ni greu cyngerdd fythgofiadwy fydd Cymru gyfan yn falch ohoni.”

Mae tocynnau ar gyfer noson Jones Jones Jones ar werth, gyda blaenoriaeth i’r Jonesiaid, o Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 08700 40 2000. £15 yw pris y tocynnau, gyda gostyngiadau o £10 a £5. Bydd yn rhaid i aelodau Jones y gynulleidfa ddod â phasport neu drwydded yrru fel prawf ar y noson. Nid yw enwau cyn priodi neu enwau â chysylltnod yn cyfrif.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales