PPL
25-Gorff-2006
I’r Sector Annibynnol
24 Gorffennaf 2006
Annwyl
PPL
Fel mae’n bosib eich bod yn ymwybodol, ar gyfer rhaglenni S4C mae MCPS ers peth amser wedi bod yn trwyddedu dybio disgiau masnachol sy’n eiddo i labeli recordiau o Gymru a Sony BMG sy’n ffurfio rhan o repertoire PPL.
Bellach mae PPL ac MCPS wedi cytuno mewn egwyddor y dylai gweddill repertoire PPL hefyd gael eu clirio drwy MCPS.
Nid yw’r cytundeb rhwng PPL ac MCPS wedi ei gwblhau eto. Yn y cyfamser, mae PPL yn awgrymu y dylai’r labeli recordiau o Gymru a Sony BMG barhau i gael eu trwyddedu drwy MCPS a bod holl repertoire arall PPL yn cael eu clirio drwy PPL (yn hytrach na thrwy gysylltu â’r labeli recordiau’n uniongyrchol).
Mae Trwydded Gynhwysfawr (Blanket Licence) S4C gyda PPL yn ymgorffori dybio repertoire PPL ar gyfer cynyrchiadau mewnol fel trêls a phromos ond nid yw bellach yn cynnwys dybio repertoire PPL ar gyfer rhaglenni a gynhyrchir ar gyfer S4C gan y sector Annibynnol. Mae hyn dod i rym heddiw.
Byddwn yn eich hysbysu cyn gynted ag y bydd y trefniadau rhwng PPL ac MCPS wedi'u ffurfioli.
Ar adeg ysgrifennu’r llythyr hwn mae VPL yn awyddus i mi atgoffa cynhyrchwyr bod angen clirio unrhyw ddefnydd o fideos cerddorol mewn rhaglenni drwy VPL, sy'n rheoli'r hawlfraint yn y deunydd ffilm. Gellir gwneud hyn naill ai ar sail pob achos yn ei dro (drwy VPL sydd â rhestr brisiau ar gyfer S4C neu'n uniongyrchol gyda'r label) neu drwy drwydded gynhwysfawr ar lefel cwmni neu raglen. Nid oes gan S4C drwydded gynhwysfawr gan VPL a chyfrifoldeb y Cynhyrchydd yw’r gwaith clirio. Mater ar wahân yw'r miwsig mewn fideos cerddorol a dylid clirio hawliau cyhoeddi cerddoriaeth drwy MCPS yn y dull arferol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, yna’r person i gysylltu ag ef yn PPL yw John McGuire, Pennaeth Darlledu / Head of Broadcasting PPL/VPL. (john.mcguire@ppluk.com tel: 020 7534 1243)
Yr eiddoch yn gywir,
Sara Griffiths
PENNAETH MATERION CYFREITHIOL
