Neidio at y cynnwys

S4C

PENODIAD AELOD AWDURDOD S4C

26-Gorff-2006

Mae'r yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn edrych i benodi aelod newydd o Awdurdod S4C.

Ymrwymiad Amser
Yn cyfateb i un diwrnod yr wythnos. Mae Awdurdod S4C yn cyfarfod bob mis, yng Nghaerdydd fel rheol, er bod yr Awdurdod yn cynnal pedwar cyfarfod cyhoeddus bob blwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru. Efallai y bydd gofyn i aelodau fynychu digwyddiadau sy’n ymwneud â’r diwydiant a diwrnodau strategol.

Lleoliad y Cyfarfodydd
Caerdydd

Cydnabyddiaeth
£8,700 a threuliau ychwanegol

Hyd Penodiad
Bydd y penodiad yn cael ei wneud am gyfnod o bedair blynedd.

Cefndir
Corfforaeth statudol yw S4C (Sianel Pedwar Cymru) a sefydlwyd yn wreiddiol dan Ddeddf Darlledu 1981, ac sydd nawr yn cael ei rheoleiddio gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 a Deddf Darlledu 1990. Sefydlwyd S4C i ddarparu ystod eang o raglenni amrywiol o ansawdd uchel, gyda chyfran sylweddol o’r rhaglenni yn rhai Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae S4C yn darlledu S4C ar analog, S4C Digidol ac S4C2 ar y llwyfannau digidol a’r gorau o gynnwys y sianel ar fand eang. Mae S4C yn darlledu’r gorau o raglenni Channel 4 ar S4C analog hefyd.

Mae Awdurdod S4C, fel corff rheoleiddio, yn gyfrifol am sicrhau bod S4C ac S4C Digidol yn cael eu darparu fel gwasanaethau cyhoeddus a bod trefniadau rheoli effeithiol, yn cynnwys rheolaeth ariannol, ar waith ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a masnachol S4C. Mae S4C yn ddarlledwr-gomisiynydd.

Mae’r modd y mae S4C yn cael ei hariannu’n unigryw - cymysgedd o gymorth grant a refeniw hysbysebu a masnachol. Mae trosiant blynyddol S4C ychydig dros £95 miliwn, ac mae’n derbyn rhaglenni am ddim gan y BBC. Mae gan S4C rôl allweddol i ddarparu adloniant a newyddion trwy gyfrwng y Gymraeg i bob rhan o Gymru a thu hwnt drwy ei gwasanaethau. Er bod Awdurdod S4C yn diogelu annibyniaeth ei gwasanaethau, mae ganddo rôl yn y Gymru ddatganoledig ac mae’n ystyried mentrau diwylliannol a mentrau eraill wrth bennu ei strategaeth. Fel darlledwr- gomisiynydd sydd ag ymrwymiad i’r sector cynhyrchu annibynnol, mae gan S4C rôl allweddol yn y broses o ddatblygu sector cynhyrchu annibynnol bywiog yng Nghymru.

Mae Bwrdd yr Awdurdod yn cynnwys Cadeirydd ac hyd at saith aelod, pob un wedi’i benodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae gan yr aelodau sgiliau a phrofiad amrywiol ac mae disgwyl iddynt weithredu ar ran y trethdalwr a chynulleidfa S4C i sicrhau bod S4C yn cyflawni ei chylch gwaith o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus a bod yr arian cyhoeddus a ddyrennir i S4C yn cael ei wario’n briodol.

Mae cyfraniad S4C hefyd yn ategu amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus perthnasol yng Nghymru a’r DU. Fel y darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus sefydledig eraill, mae’n rhaid i S4C ymdopi â’r heriau technolegol sy’n gysylltiedig â’r newid i ddigidol a fydd yn digwydd rhwng 2008 a 2012 (2009 yng Nghymru), a’r gystadleuaeth gynyddol am wylwyr wrth i nifer y cartrefi sydd â mynediad i amrywiaeth eang o sianeli digidol gynyddu i dros 80% yng Nghymru). Her neu gyfle arall i S4C gyda’r newid i deledu digidol fydd addasu wrth golli rhaglenni Channel 4.

Y Rôl
Mae angen aelod newydd ar Fwrdd Awdurdod a Phwyllgor Archwilio a Rheoli Risg S4C gyda phrofiad o’r byd ariannol neu archwilio i’w helpu i ateb yr her a manteisio ar y cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r twf mewn teledu aml-sianel a chynlluniau’r Llywodraeth i ddiffodd y sytem deledu analog.

Y Person
Ar gyfer y swydd hon, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:

· brofiad ariannol neu archwilio perthnasol;

· y gallu i gyfrannu’n effeithiol at ddatblygu strategaeth yn y dyfodol;

· sgiliau cyfathrebu a gweithio fel tîm rhagorol;

· ymwybyddiaeth o faterion darlledu cyfoes, a materion dosbarthu cynnwys, neu’r gallu i feithrin yr ymwybyddiaeth hon;

· dealltwriaeth o’r egwyddorion sy’n sail i lywodraethu corfforaethol effeithiol, neu’r gallu i’w meithrin;

· ymrwymiad clir i amcanion S4C; a

· chan fod yr Awdurdod yn cynnal y rhan fwyaf o’i fusnes drwy gyfrwng y Gymraeg bydd angen i’r ymgeiswyr fod yn siaradwyr Cymraeg effeithiol.


Gwybodaeth Cefnogol
Gwneir yr apwyntiad yma gan Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Mae’r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn hybu polisi cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fenywod, pobl ethnig o gefndiroedd lleiafrifol a phobl anabl. Bydd apwyntiad yn cael ei wneud yn ôl haeddiant, ac yn cael ei reoleiddio gan Swyddfa’r Comisiynydd ar gyfer Apwyntiad Cyhoeddus.

Aelodau Presennol
Mr John Walter Jones OBE – Cadeirydd
Mrs Carys Howell
Dr Christopher Llewelyn
Mrs Enid Hafwen Rowlands
Mrs M Eira Davies
Syr Roger Jones OBE

Sut i ymgeisio
Mae ffurflenni cais ar gael gan Danny Herbert yn y cyfeiriad canlynol - Public Bodies Division, Department for Culture, Media and Sport, 2-4 Cockspur Street, Llundain SW1Y 5DH. Ffôn: 020 7211 2303 E-bost: Danny.Herbert@culture.gsi.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth am waith Awdurdod S4C ar y wefan: www.s4c.co.uk Mae manylion am benodiadau eraill yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar wefan yr Adran: www.culture.gov.uk

Dyddiad Cau
21 Awst 2006

Dyddiad Cyfweliad
11 Medi 2006

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales