AD-ASEINIAD - TELERAU SAFONOL S4C A TAC
31-Gorff-2006
Mae S4C a TAC wedi cytuno ar delerau fydd yn galluogi i’r hawliau mewn ugain mlynedd o ddeunydd archif a rhaglenni cael eu had aseinio i’r sector annibynnol. Mae’r tabl hwn yn amlinellu’r telerau.
Fel rhan o’r trefniant mae TAC wedi cyhoeddi Polisi Dethol ac Archifo fydd yn cynorthwyo’r sector annibynnol i fanteisio ar y cyfleoedd masnachol yn y deunydd.
Ffurflen Logio TAC yma
Canllawiau Ffurflen Logio TAC yma
Bydd S4C yn gofyn i gwmniau ddatgan diddordeb yn yr ad-aseiniad ar ffurflen bwrpasol, erbyn 4 Hydref 2006. Bydd manylion pellach ar Safle Cynhyrchu S4C yn fuan.
