CALENDR ELUSEN - FFROG FACH DDU
02-Awst-2006
Mae’r ‘ffrog fach ddu’ yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 mlwydd oed eleni ac mae’r gantores Cerys Matthews, y gyflwynwraig deledu Fiona Phillips a’r actores Siân Phillips ymysg detholiad o wynebau cyfarwydd sydd wedi cyfrannu at galendr arbennig i gofnodi’r garreg filltir.
Lansir y calendr, fydd yn cyfrannu at goffrau Autism Cymru, elusen S4C ar gyfer 2006, am 3pm ddydd Llun 7 Awst ym mhabell S4C ar faes Eisteddfod Genedlaethol Abertawe.
Bydd nifer o’r enwogion sydd i’w gweld rhwng cloriau’r calendr yn bresennol yn y lansiad, a fydd yn cael ei gynnal gan Nia Parry, sydd hefyd yn ymddangos yn gwisgo’i ffrog fach ddu yn y calendr.
Caiff yr holl ffotograffau - gafodd eu tynnu gan Rhian ap Gruffydd - eu harddangos ar stondin S4C trwy gydol wythnos yr Eisteddfod, tra bydd y calendr ei hun ar werth am £8 o’r stondyn ac o nifer o siopau dethol ledled y wlad. Mae e hefyd ar gael o calendr@fflic.com.
Syniad y cynhyrchydd Beca Evans, sy’n gweithio i gwmni teledu Fflic, cynhyrchwyr y gyfres Cwpwrdd Dillad, oedd y calendr. Llwyddodd Beca i ddwyn perswâd ar enwogion eraill megis y gyflwynwraig dywydd Siân Lloyd,; yr actores Menna Trussler sy’n ymddangos yn Little Britain; y cyflwynwyr teledu Angharad Mair, Lucy Owen a Sarra Elgan; a’r gantores Shân Cothi i gael tynnu llun ar gyfer achos da.
“Mae’r ffrog fach ddu’n eiconig tu hwnt ac o’n ni moyn talu teyrnged iddi yn ystod blwyddyn ei dathliadau pen-blwydd yn 80 oed, tra’n cefnogi Autism Cymru ar yr un pryd,” esbonia Beca Evans.
Ychwanegodd Laura Morgan, Swyddog Cyfathrebu Autism Cymru: “Ry’n ni’n ddiolchgar iawn fod y calendr yn cael ei werthu er budd Autism Cymru. Bydd yr arian yn cyfrannu at sefydlu Canolfan Gymreig i Ymchwil Autism. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i’r enwogion sydd wedi rhoi o’u hamser i gymryd rhan yn y fenter.”
