Neidio at y cynnwys

S4C

HWB O HANNER MILIWN O BUNNAU I’N DIWYDIANT ANIMEIDDIO

03-Awst-2006

Mae’r diwydiant animeiddio yng Nghymru wedi cael hwb sylweddol yn dilyn y newydd fod tri chwmni i rannu £500,000 gan S4C i ddatblygu a chynhyrchu gwaith animeiddio newydd.

Rhennir yr arian, a wobrwywyd yn dilyn proses dendro gystadleuol, rhwng cwmni Calon ym Mae Caerdydd, Griffilms, sydd â swyddfeydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd, a phartneriaeth rhwng Cwmni Da o Gaernarfon, a Dinamo o Gaerdydd.

Bydd Calon yn derbyn £250,000, tra bydd Griffilms yn derbyn £150,000 a phartneriaeth Cwmni Da/Dinamo yn derbyn £100,000.

Dros gyfnod o ddwy flynedd, disgwylir i’r tri chwmni ddatblygu a chyfleu nifer o brosiectau animeiddio aml-lwyfan, yn amrywio o ffilmiau byrion rhwng 10 eiliad a 10 munud o hyd, i ddeunydd hyrwyddo.

Bydd disgwyl i’r prosiectau adlewyrchu blaenoriaethau rhaglenni S4C, a amlinellir yn Strategaeth Rhaglenni’r Sianel, gan ganolbwyntio ar gynulleidfaoedd teuluol, plant a hwyr y nos yn benodol.

Daw’r newydd ar adeg brysur i’r cwmnïau. Mae Calon wrthi’n gweithio ar gyfres animeiddio meithrin newydd i S4C, Holi Hana, sy’n gyd-gynhyrchiad gyda Five a’r darlledwr Almaeneg ZDF, gyda chefnogaeth ariannol gan raglen Media+ yr Undeb Ewropeaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Griffilms hefyd yn gweithio ar ffilm animeiddiedig 30-munud wedi’i seilio ar y chwedl Gymreig Gelert, i’w darlledu ar S4C Nadolig 2007, tra bod Dinamo yn cynhyrchu Cwm Teg, cyfres o 20 o hwiangerddi animeiddiedig, i’r Sianel.

Dywed Meirion Davies, Comisiynydd Adloniant S4C, a gydlynodd y broses dendro animeiddio,

“Mae S4C wedi’i hymroi i ddatblygu ystod o brosiectau animeiddio creadigol o fathau gwahanol ar gyfer defnydd aml-lwyfan, o ffilmiau hyrwyddo byrion a ellir eu danfon at ffonau symudol i raglenni oriau brig. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda thimau talentog y cwmnïau llwyddiannus hyn.”

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Calon, Robin Lyons, “Mae hyn yn gyfle da i greu cynnwys gwirioneddol fentrus ar gyfer llwyfannau amrywiol S4C. Mae’n rhoi cyfle inni gyflwyno pob math o syniadau a thalentau newydd i’r diwydiant yng Nghymru ac yn gam ymlaen i gynhyrchu rhagor o waith pellgyrhaeddol ac uchelgeisiol.”

Ychwanega Neville Hughes o bartneriaeth Cwmni Da/Dinamo, “Mae hyn yn ddatblygiad pwysig i’r diwydiant yng Nghymru. Bydd yr arian yn galluogi’r ddau gwmni i gydweithio ar brosiectau newydd cyffrous a darganfod gwahanol lwyfannau ar gyfer animeiddio.”

Dywed Hywel Griffith o Griffilms, “Mae Griffilms yn falch iawn o fod yn rhan o ymrwymiad hirdymor S4C i’r diwydiant animeiddio yng Nghymru ac mae’n gyfle gwych inni ddatblygu a chynhyrchu cynnwys amineiddio cyffrous a newydd er mwyn difyrru cynulleidfaoedd yma a thramor.”

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales