TRAFOD TELEDU AR FAES Y BRIFWYL
04-Awst-2006
Bydd panel o enwau adnabyddus yn trin a thrafod ‘Teledu’r Flwyddyn’ mewn digwyddiad arbennig ym mhabell S4C ar faes Eisteddfod Genedlaethol Abertawe am 1.00pm, ddydd Llun 7 Awst.
Caiff y drafodaeth ei chadeirio gan yr awdur a’r darlledwr Jon Gower, a bydd ar gael i'w wylio ar wefan S4C o 8 Awst ymlaen am fis. Bydd cyfle i ymwelwyr â gwefan S4C gyfrannu i’r drafodaeth trwy anfon sylwadau ar e-bost o flaen llaw - cliciwch yma.
Yn ymuno â Jon bydd Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson; y dramodydd, cyflwynydd teledu a chyfarwyddwr y gyfres boblogaidd Caerdydd, Ed Thomas; Golygydd cylchgrawn Golwg, Karen Owen; a’r awdur ag enillydd Llyfr Y Flwyddyn 2005, Caryl Lewis.
“Mae'r drafodaeth yn addo bod yn ddiddorol, gafaelgar a ffraeth tu hwnt, gyda’r panel yn mynegi gwahanol safbwyntiau, gan gynnig trawsdoriad eang o agweddau i'r rhai sy'n dod i wrando,” medd Jon Gower, cyn-ohebydd celfyddydau BBC Cymru sydd bellach yn gweithio i gwmni teledu Boomerang.
Bydd y drafodaeth yn dadansoddi holl agweddau’r byd teledu - o raglenni S4C i’r dyfodol digidol a thu hwnt - yn ogystal â rhoi cyfle i’r panelwyr ddewis eu hoff raglenni o’r flwyddyn a fu.
