Neidio at y cynnwys

S4C

FFORWM CHWARAEON S4C

07-Awst-2006

Bydd Comisiynydd Chwaraeon S4C a chyn-fewnwr tîm rygbi Cymru, Gareth Davies, yn cadeirio Fforwm Chwaraeon ym mhabell S4C am 4.00pm ar 9 Awst.

Yn lleisio’u barn bydd Lyn Jones, prif hyfforddwr rhanbarth y Gweilch; y dyfarnwr proffesiynol ac un o sêr y gyfres Jonathan, Nigel Owens; a gohebydd Le Rygbi, Bethan Clement.

Bwriad y sesiwn yw trafod chwaraeon yn gyffredinol ond yn amlwg, gyda’r rhai sy’n eistedd ar y panel, bydd pwyslais arbennig ar fyd y bêl hirgron.

Bydd y Fforwm Chwaraeon ar gael i'w wylio ar wefan S4C o 10 Awst ymlaen am fis. Bydd cyfle i ymwelwyr â gwefan S4C gyfrannu i’r drafodaeth trwy anfon sylwadau ar e-bost o flaen llaw - cliciwch yma

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales