TAITH Y KARLUK WEDI EI HENWEBU AM WOBR
11-Medi-2006
TAITH Y KARLUK WEDI EI HENWEBU AM WOBR
Mae ffilm ddrama-ddogfen sy’n adrodd hanes anhygoel grwp o forwyr, gan gynnwys y Cymro Huw Williams, a orchfygodd drasiedi ym mhacrew'r Arctig ym 1913, wedi ei henwebu am wobr deledu Gemini yng Nghanada.
Mae Yn y Pacrew - Taith Olaf y Karluk wedi cyrraedd rhestr fer categori’r Ffilm Ddogfen Hanesyddol Orau yn y gwobrau. Mae’r ffilm eisoes wedi ennill y wobr am Y Ffilm Orau yng Ngwyl Ffilmiau Antur Jules Verne ym Mharis.
Mae’r ffilm 90-munud o hyd yn olrhain hanes criw llong y Karluk, a deithiodd i’r Arctig i’r archwilio’r ardal ar ran llywodraeth Canada. Wedi hwylio i’r gogledd trwy Gulfor Bering, cafodd y Karluk ei dal yn sownd yn yr iâ.
Llwyddodd y criw i ddianc a chyrraedd y tir cadarn agosaf, sef ynys fechan anghysbell, a dyna lle y buon nhw am fisoedd lawer cyn cael eu hachub.
Mae’r rhaglen yn cynnwys ffilm archif o’r Karluk yn ei charchar rhewllyd a’r ymdrech i achub y criw, yn ogystal â golygfeydd ail-greu dramatig a chyfweliadau.
Cyd-gynhyrchiad rhwng S4C a History Television Canada yw’r ffilm, a gynhyrchwyd gan Gwmni Da o Gaernarfon a Kaizen West o Edmonton, Canada. Saethwyd nifer o’r golygfeydd ar leoliad yn ardal Arctig Canada.
“Mae’n fraint cael ein henwebu am y wobr yma,” meddai Gwyn Williams o Gwmni Da. “Mae’r stori anhygoel yma o oroesi yn erbyn pob tebygolrwydd, yn ogystal ag arwriaeth y morwyr mewn amgylchiadau erchyll, yn werth ei gweld.”
Cynhelir Gala Newyddion, Chwaraeon a Dogfen Gemini ar 16 Hydref, 2006.
