CWESTIYNAU ADASEINIO HAWLIAU RHAGLENNI
19-Medi-2006
Cwestiwn
Ydy S4C yn medru darparu rhestr o raglenni a gynhyrchwyd gan gwmni gan gynnwys rhif y rhaglen a’r dyddiad darlledu cyntaf?
Ateb
Fe fedrwn ddarparu’r rhestr o deitlau rhaglenni sy’n ymddangos o dan enw’r cwmni yn ein system gyfrifiadurol, hyd a nifer, a dyddiad darlledu cyntaf (neu ddyddiad darlledu’r bennod ola yn achos cyfres). Fe fydd S4C yn gwneud pob ymdrech resymol i wirio'r wybodaeth hon ond nid yw S4C yn gwarantu y bydd y wybodaeth yn gyflawn a chywir ac ni fydd yn atebol am unrhyw wallau neu hepgoriadau.
Cwestiwn
Mae’r wybodaeth yn y dogfennau ar y safle gwe yn nodi mai cwmniau cynhyrchu yn unig sydd i wneud cais am ad aseiniad o’r hawliau. Sut ddylai cyfarwyddwyr cwmni nad yw’n bodoli mwyach fynd ati i wneud cais am adaseinio hawliau rhaglenni?
Ateb
Os oes gan gyfarwyddwyr cwmniau nad ydynt yn bodoli ddiddordeb mewn ceisio am yr hawliau yna dylai holl gyn gyfarwyddwyr y cwmni gytuno er mwyn gwneud y cais ar y cyd, neu roi awdurdodiad ysgrifenedig i gwmni/gynrychiolydd wneud cais ar eu rhan. Mae’r cynnig am adaseiniad yn gyson â pholisi S4C i’r sector gynhyrchu fedru manteisio yn fasnachol. Bydd S4C yn cadw’r hawl i flaenoriaethu’r ceisiadau yn unol a’r polisi ac yn ol ei disgresiwn.
Cwestiwn
Lle fedrwn ni gael gafael ar y rhestr o gynyrchiadau sy’n cael eu dosbarthu gan Cymru International?
Ateb
Mae rhestr o’r cynhyrchiadau i’w chael yma. Gan fod hawliau penodol wedi eu breinio yn Cymru International ar gyfer dosbarthu, ni fydd yr hawliau yn y rhaglenni hyn yn cael eu hadaseinio.
Cwestiwn
Pan fod deunydd crai (rushes) yn cael ei storio yn llyfrgell S4C, a fyddai S4C yn hapus i ryddhau y tapiau i’r cwmnïau cynhyrchu yn rhad ac am ddim.
Ateb
Bydd S4C yn rhyddhau’r tapiau o’n llyfrgell yn ddi-dâl. Os bydd cwmni cynhyrchu yn gofyn am gopïau o dapiau rhaglenni yna mae’n bolisi gan S4C na fydd copïau darlledu yn cael eu rhyddhau o’r adeilad a byddai disgwyl i’r cwmni cynhyrchu dalu ffî copïo. Nodwch os gwelwch yn dda, lle bo deunydd crai yn cael ei ryddhau yna dylai gael ei storio yn unol â’r telerau/safonau a amlinellwyd ym Mholisi Archifo TAC.

