LLINELL GYMORTH GYRFAOEDD YN Y CYFRYNGAU YNG NGHYMRU
20-Medi-2006
Lansiwyd llinell gymorth newydd yn cynnig cyngor ar weithio yn niwydiannau’r cyfryngau yng Nghymru gan Skillset, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y Diwydiannau Clyweledol. Bydd llinell gymorth Skillset Cymru - 0800 0121 815 – yn rhoi mynediad i alwyr i weithwyr proffesiynol yn y cyfryngau sydd â phrofiad o natur anwastad y diwydiannau teledu a ffilm sydd wedi’u hyfforddi fel ymgynghorwyr gyrfaoedd, a byddant yn darparu cyngor gonest a chyfrinachol wedi’i deilwra i anghenion unigolion.
Dyma’r tro cyntaf i wasanaeth gyrfaoedd Skillset fod ar gael yng Nghymru ac mae hefyd yn cynnig cyngor dros yr e-bost walescareers@skillset.org a sesiynau arweiniad wyneb yn wyneb y gellir eu harchebu drwy’r llinell gymorth neu drwy ymweld â www.skillset.org
Dywed Iona Jones, Prif Weithredwr S4C a Chadeirydd Skillset Cymru: “Mae’r gwasanaeth hwn yn declyn cefnogi gwerthfawr i bobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant sy’n dymuno cynyddu eu gyrfa ac i bobl ifanc sy’n ceisio ymuno â'r diwydiant ac adeiladu eu gyrfaoedd. Mae’n darparu arweiniad sy’n ymarferol, yn wybodus ac yn bennaf oll yn realistig ynghylch sut i ddatblygu a dilyn gyrfa hir dymor yn y diwydiannau clyweledol.”
