Neidio at y cynnwys

S4C

ACEN YN ENNILL TENDR IS-DEITLAU

09-Hyd-2006

Mewn cystadleuaeth dendro agored, mae cwmni Acen wedi ad-ennill yr hawl i ddarparu is-deitlau Cymraeg ar raglenni S4C o Ionawr 2007 am gyfnod o dair blynedd.

Mae is-deitlau Cymraeg ar gael ar dudalen 889 ar Teletestun.

Meddai Emlyn Penny Jones, Cyfarwyddwr Rheoli Sianelau S4C, “Mae gan Acen brofiad helaeth o wasanaethu dysgwyr y Gymraeg ar nifer o lefelau, gan gynnwys is-deitlau Cymraeg ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach â’r cwmni dros y blynyddoedd nesaf. Bwriad y gwasanaeth is-deitlo Cymraeg yw gwasanaethu’r byddar a’r trwm eu clyw Cymraeg eu hiaith yn ogystal â dysgwyr, a’r rhai sy’n ystyried eu Cymraeg yn ansicr, fel y gallant oll fwynhau rhaglenni Cymraeg S4C.”

Meddai Elen Rhys ar ran cwmni Acen, “Mae Acen, fel cwmni, wrth ei fodd â’r cyhoeddiad hwn. Mae’n rhoi cyfle i ni ehangu, unwaith ein rhagor, ein gwasanaethau ar gyfer dysgwyr profiadol a’r trwm eu clyw. Ein gobaith fel cwmni yw y bydd miloedd dros y tair blynedd nesaf yn manteisio ar y gwasanaeth er mwyn deall a mwynhau rhaglenni S4C.”

Bydd Acen yn darparu 10 awr yr wythnos ar gyfartaledd o is-deitlau Cymraeg i S4C, y mwyafrif ar raglenni fydd i’w gweld yn ystod yr oriau brig ar wasanaeth analog y Sianel a’r rhaglenni cydamserol ar ddigidol.

Mae’r rhaglenni gydag is-deitlau Cymraeg wedi eu nodi gyda 889 ar wefan S4C - fe’u nodir ar y sgrîn gyda 889 neu’r geiriau Is-deitlau Cymraeg. Cewch fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth is-deitlau ar wefan S4C: s4c.co.uk/isdeitlau.

Acen sydd hefyd yn darparu’r wefan gynhwysfawr ar gyfer dysgwyr, www.dysguars4c.co.uk.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales