Neidio at y cynnwys

S4C

DYDDIAD CAU'R GELTAIDD YN NESAU

16-Hyd-2006

Mae llai na pythefnos i fynd tan ddyddiad cau derbyn ceisiadau i'r Wyl Ffilm a Theledu Geltaidd, a gynhelir yn Skye, 28-30 Mawrth 2007. Y dyddiad cau yw Dydd Gwener, 27ain Hydref 2006.

Derbynnir ceisiadau o'r gwledydd Celtaidd sy'n cymryd rhan yn yr Wyl (Cernyw, Cymru, Iwerddon, Llydaw a'r Alban) ar unrhyw bwnc. Derbynnir ceisiadau o'r tu allan i'r gwledydd Celtaidd pan fo'r pwnc yn berthnasol i elfennau o fywyd a diwylliant gwlad Geltaidd, yn y gorffennol, presennol neu'r dyfodol. Rhoddir sylw arbennig i gynyrchiadau mewn ieithoedd Celtaidd a chynyrchiadau cyntaf cyfarwyddwyr newydd.

Ceir gwybodaeth lawn ar sut i gystadlu ar wefan yr Wyl, www.celticfilm.co.uk neu drwy ffonio +44 (0)141 302 1737.

Cefnogir yr Wyl Ffilm a Theledu Geltaidd gan Highland 2007, Event Scotland, Highland Council, HIE Skye a Wester Ross, BBC Scotland a Scottish Screen.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales