BBC AC S4C YN CYHOEDDI PARTNERIAETH STRATEGOL NEWYDD
17-Hyd-2006
Mae Llywodraethwyr y BBC ac Awdurdod S4C heddiw wedi cyhoeddi partneriaeth strategol newydd ar gyfer datblygu rhaglenni a gwasanaethau i gynulleidfaoedd teledu Cymraeg eu hiaith.
Mae’r cyrff llywodraethu wedi disgrifio’r cytundeb fel “carreg filltir arwyddocaol” yn y berthynas rhwng y ddau ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus.
Mae’r cytundeb yn egluro sut y bydd y gorfforaeth yn cryfhau ac ymestyn ei chefnogaeth i S4C dros y tair blynedd nesaf wrth i’r sianel Gymraeg roi ei strategaeth rhaglenni ar waith wrth baratoi ar gyfer y newid i ddigidol yng Nghymru yn 2009.
Mae gan y BBC ddyletswydd statudol i ddarparu S4C â thros 10 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos - rhaglenni wedi’u cynhyrchu gan BBC Cymru a’u hariannu gan y ffi drwydded. Mae cyfraniad presennol y BBC yn cynnwys y gwasanaeth newyddion rhyngwladol, Newyddion a’r ddrama ddyddiol, Pobol y Cwm.
Fel rhan o’r bartneriaeth strategol newydd, bydd y BBC:
• yn cynyddu ei wariant blynyddol ar gynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C o ychydig llai na £22m yn 2006/07 i ychydig dros £25m erbyn 2008/09;
• yn cynyddu nifer y rhaglenni y mae’n ei gynhyrchu ar gyfer S4C. Mae cynlluniau rhaglenni manwl wrthi’n cael eu trafod ar hyn o bryd gydag S4C;
• yn sefydlu fframwaith cynllunio ar y cyd gydag S4C sy’n manylu ar sut y bydd y ddau ddarlledwr yn trafod a chytuno ar ba raglenni y bydd y BBC yn eu cyfrannu i S4C;
• yn darparu, am y tro cyntaf erioed, raglenni a gynhyrchir gan BBC Cymru ar wasanaethau band llydan ac ar alw S4C;
• yn rhannu ei gynlluniau gwariant blynyddol gydag S4C o flaen llaw. Hyd yma, dim ond wrth adolygu yn yr Adroddiad Blynyddol y mae’r BBC wedi cyhoeddi gwybodaeth ariannol.
Bydd y Bartneriaeth hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i Lywodraethwyr y BBC ac Awdurdod S4C ddatblygu targedau perfformiad cynulleidfa.
Mae’r cytundeb newydd yn adlewyrchu darpariaethau Papur Gwyn y Llywodraeth eleni ar ddyfodol y BBC. Mae’r cytundeb hefyd yn ymdrin â’r sialensiau a osodwyd yn Adroddiad Laughton i’r Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn 2004 ac adolygiad Ofcom y llynedd o ddarlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus.
Meddai Cadeirydd y BBC, Michael Grade, “Mae rhaglenni BBC Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw yn llwyddiant S4C ers blynyddoedd. Rydym yn falch iawn y bydd y bartneriaeth newydd hon yn cryfhau ac ymestyn cyfraniad y BBC. Rwy’n sicr y bydd cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yn elwa o hyn.”
Meddai Cadeirydd S4C, John Walter Jones, “Mae’r bartneriaeth newydd yn ddechrau pennod newydd i’w chroesawu yn y berthynas rhwng S4C a’r BBC. Rydym yn ddiolchgar i’r BBC am y gefnogaeth helaeth sydd wrth wraidd y cytundeb hwn.”
Meddai Rheolwr BBC Cymru, Menna Richards, “Mae’r datblygiadau digidol yn gosod sialensiau a chyfleoedd enfawr ar gyfer y cyfryngau Cymraeg eu hiaith. Trwy gydweithio’n agos â’n gilydd, yn ysbryd y cytundeb newydd, mae’r BBC ac S4C yn cynnig y cyfle gorau posibl i gryfhau ac ymestyn gwasanaethau Cymraeg eu hiaith ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed.”
Meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, “Mae hyn yn newyddion da i gynulleidfaoedd Cymraeg a fydd yn elwa wrth ehangu cyfraniad y BBC i wasanaethau teledu ac ar-lein S4C.”
