Neidio at y cynnwys

S4C

STRWYTHUR COMISIYNU NEWYDD I S4C

24-Hyd-2006

Mae S4C heddiw yn cyhoeddi strwythur comisiynu newydd i adlewyrchu anghenion newidiol y gynulleidfa, gofynion aml-lwyfan a natur ei pherthynas â'r sector gynhyrchu annibynnol a'r BBC. Mae’r newidiadau yn dilyn cymeradwyaeth Awdurdod S4C.

Bydd y strwythur newydd yn cynnwys penodi Pennaeth Cynnwys, Pennaeth Gwasanaethau Plant a phum Golygydd Cynnwys ar gyfer Ffuglen, Chwaraeon, Diwylliant, Adloniant, Ffeithiol a Chyd-gynyrchiadau ac yn disodli’r drefn bresennol o Gomisiynwyr. Bydd y Pennaeth Cynnwys yn cydlynu darpariaeth cynnwys ar draws gwasanaethau S4C yn unol â’r Strategaeth Rhaglenni a’r agenda rhagoriaeth greadigol.

Bydd penodiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant yn rhoi arweiniad strategol i holl weithgareddau S4C mewn perthynas â phlant ac yn ateb sialensau darparu cynnwys i’r gynulleidfa allweddol hon. Y bwriad strategol yw ehangu’r ddarpariaeth.

Bydd hysbysebion ar gyfer y swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi'r wythnos nesaf ac fe ddisgwylir i'r broses benodi gael ei chwblhau yn wythnos gyntaf mis Rhagfyr eleni. Bydd deiliaid y swydd yn adrodd i’r Cyfarwyddwr Comisiynu.

Yn ogystal â hynny, ac yn gyson â pholisi S4C o hyrwyddo twf cynaladwy yn y sector gynhyrchu annibynnol, bydd cynhyrchu mewnol Planed Plant yn dod i ben. Bydd proses dendro agored a chystadleuol yn cael ei chyflwyno i sicrhau darparwr newydd, annibynnol i'r gwasanaeth. Cyhoeddir y tendr yn Ionawr 2007.

Bydd S4C yn ymgynghori gyda’r undeb darlledu BECTU yn dilyn cyhoeddiad heddiw.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales