HYSBYSEB AR GYFER SWYDDI ADRAN GOMISIYNU
30-Hyd-2006
ADRAN COMISIYNU S4C
Mae S4C yn newid er mwyn bod yn flaengar a heriol wrth elwa ar gyfleoedd a ddaw o'r datblygiadau cyffrous sy'n wynebu'r diwydiant darlledu. Rhagoriaeth greadigol yw'r nod ar gyfer ein gwasanaethau fel rhan o'r Strategaeth Rhaglenni dros y blynyddoedd nesaf. Er mwyn atgyfnerthu ein gallu i gyflawni hyn mae S4C yn ail-drefnu ei strwythur comisiynu i gwrdd ag anghenion ei chynulleidfa, datblygu gwasanaethau aml-blatfform ac adlewyrchu'r berthynas newydd gyda'r cynhyrchwyr .
O ganlyniad rydym yn cynnig cyfle i unigolion creadigol ymuno â thîm y Cyfarwyddwr Comisiynu i sicrhau cyflenwad addas o gynnwys ar gyfer holl wasanaethau S4C.
Pennaeth Cynnwys
Bydd gan y Pennaeth Cynnwys rhan allweddol yn y broses o gydlynu a datblygu holl gynnwys y sianel a chyfrannu at wireddu’r Strategaeth Rhaglenni yn ei chyfanrwydd. Bydd y person a benodir yn cyd-weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Comisiynu i ddatblygu a blaenoriaethu polisi aml-blatfform y sianel.
Pennaeth Gwasanaethau Plant
Mae S4C yn ymestyn ei darpariaeth ar gyfer plant ac wedi ymrwymo i ddarlledu lleiafswm o 140 awr o raglenni gwreiddiol y flwyddyn. O ganlyniad rydym yn datblygu polisi holl gynhwysfawr sy'n rhoi cyfrifoldeb am holl weithgareddau ac anghenion plant i bennaeth. Rydym yn chwilio am berson felly i fod yn gyfrifol am greu Strategaeth Plant aml-blatfform benodol i S4C a chydlynu a datblygu holl Wasanaethau Plant y sianel.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am y ddwy swydd uchod yw 10 Tachwedd 2006.
Er mwyn cynorthwyo'r Cyfarwyddwr Comisiynu a'r Penaethiaid fel rhan o'r Adran Comisiynu newydd, ac i sicrhau fod S4C yn hybu creadigrwydd a rhagoriaeth o'r radd flaenaf mewn partneriaeth â'n cynhyrchwyr ac yn unol â'r canllawiau cydymffurfiaeth, rydym yn chwilio am:-
Golygydd Cynnwys Chwaraeon
Mae gan S4C enw da ym maes chwaraeon gyda nifer o gytundebau hawliau sylweddol yn eu lle. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo i adeiladu ar y portffolio presennol, datblygu polisi a strategaeth benodol i'r maes a sicrhau safon y cynyrchiadau.
Golygydd Cynnwys Ffuglen
Mae S4C yn darlledu dros 100 awr o ddrama wreiddiol y flwyddyn, megis Con Passionate, Caerdydd a Tipyn o Stad. Bydd y Golygydd newydd yn cynorthwyo'r Cyfarwyddwr Comisiynu i ddatblygu llechen ddrama'r sianel yn unol â'r Strategaeth Rhaglenni.
Golygydd Cynnwys Diwylliant
Mae S4C wedi dyrchafu pwysigrwydd cerddoriaeth, perfformio a'r celfyddydau yn ei hamserlen. Mae rhagoriaeth mewn rhaglenni cerddoriaeth a chelfyddydol yn denu cynulleidfaoedd da i’r sianel yng Nghymru a dros y ffin ac felly rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn gallu adnabod cyfleoedd ar gyfer rhaglenni sy’n taro’r nodyn uchaf.
Golygydd Cynnwys Ffeithiol a Chyd-gynyrchiadau
Mae cyfresi megis Wynebau Newydd ac O'r Galon wedi hawlio eu lle yn arlwy rhaglenni S4C ac mae gan y sianel ddyletswydd arbennig i gofnodi digwyddiadau hanesyddol ein cenedl a chreu cyfresi ffeithiol fydd yn uchafbwyntiau'r amserlen. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo i greu polisi ffeithiol a chyd-gynyrchiadau rhyngwladol i'r sianel.
Golygydd Cynnwys Adloniant
Mae S4C yn dymuno rhoi pwyslais cynyddol ar ddiddanwch ar draws yr amserlen a pharhau i ymestyn y ddarpariaeth adlonianol sydd ag apęl i'r teulu cyfan. Fe fydd y Golygydd newydd yn cynorthwyo i ddatblygu rhaglenni a chynnwys aml-blatfform gwreiddiol i'r sianel.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am swyddi'r Golygyddion Cynnwys yw 17 Tachwedd 2006.
Rhaid wrth wybodaeth eang a gweledigaeth am y maes perthnasol yn ogystal â phrofiad mewn rheoli a/neu gynhyrchu a/neu ddarlledu. Mae’r gallu i adnabod a deall anghenion y gynulleidfa a chydweithio’n llwyddiannus gyda’r sector gynhyrchu annibynnol hefyd yn hanfodol.
Bydd amodau a lleoliad y swyddi uchod i’w trafod.
Am fanylion pellach a ffurflen gais cysylltwch â Kay Walters, Pennaeth Adnoddau Dynol ar 029 2074 1300 neu drwy e-bostio kay.walters@s4c.co.uk.
Gweithredir polisi cyfle cyfartal.
