Neidio at y cynnwys

S4C

CYFARFOD TAC/S4C I DRAFOD LLENWI’R BRÎFF GOLYGYDDOL A BUSNES – 20 HYDREF 2006

17-Tach-2006

CYFARFOD TAC/S4C I DRAFOD LLENWI’R BRÎFF GOLYGYDDOL A BUSNES

20 HYDREF 2006

Presennol Nia Wyn Thomas, Branwen Cennard, Angharad Anwyl (TAC)
Delyth Wynne Griffiths, Siân Hill, Bethan Thomas, Margaret Hughes (S4C)

1. Y Broses Gomisiynu
Unwaith y daw cadarnhad bod y syniad i’w ystyried ymhellach yn Cam 2 dylid cael trafodaeth (boed yn gyfarfod, sgwrs ffôn, e-bost) er mwyn i’r cynhyrchydd, y comisiynydd a’r uned gyllid drafod hyd a lled y syniad yng nghyd-destun y tariffau arweiniol.

Roedd cydnabyddiaeth o’r ddwy ochr o bwysigrwydd cadarnhau cost debygol y rhaglen yng Ngham 3 y Broses Gomisiynu.

2. Yr wybodaeth sydd ei angen yn y Brîff
Trafodwyd y ffaith mai bwriad y Brîff yw cynnig ciplun sydd yn rhoi manylion a disgrifiad o’r rhaglen ar bwynt penodol. Yn anorfod lle nad yw’r holl wybodaeth ar gael ar adeg llenwi’r Brîff yna bydd angen diweddaru a ffurfioli unrhyw newidiadau.

2.5 – Brîff cyfarwyddo a 2.6 – Brîff cynllunio ac effeithiau
Gyda’r rhain dylid nodi cymaint o fanylion ag sy’n bosib ar adeg llenwi’r Brîff gan roi syniad o’r arddull disgwyliedig. Er hynny nodwyd na fedrid bod yn benodol tan y byddai’r personél wedi dechrau gweithio ar y prosiect. Dylid felly nodi dyddiad pan ddylai’r cynhyrchydd a’r comisiynydd ddod i gytundeb. Fe fydd yr elfennau yma yn cael eu cynnwys yn y rhestr cymeradwyo yn 4.15 (Cymeradwyaeth Olygyddol).

2.7 – Brîff castio – Y bwriad yma yw cael syniad o’r math o gastio sy’n cael ei ystyried (acenion, talent newydd/profiadol, oedran ayyb). Er y gallai enwau ddarlunio hyn, nid oes rhaid nodi enwau actorion penodol ac fe allant newid yn ystod trafodaethau pellach.

2.8 - Brîff teitlau - Cydnabod ei bod yn anodd rhoi manylion pendant adeg llenwi’r Brîff ond fe fyddai’n cynorthwyo pawb i gael dyddiad erbyn pryd bod rhaid cael cytundeb. Y dyddiad hwn i’w ychwanegu at y rhestr cymeradwyo yn 4.15.

3.1 Personél allweddol - Yn ddelfrydol enwi’r personél ond os nad yw hyn yn bosib nodi dyddiad erbyn pryd y bydd enwau penodol ar gael i’r comisiynydd gymeradwyo. Y dyddiad i’w nodi yn 4.15.

4.12 - Briff ôl gynhyrchu – Dylid nodi y cyfeiriad tebygol ond gyda dyddiad ymhellach ymlaen pan fydd angen cytuno ar yr arddull. Y dyddiad i’w cynnwys yn 4.15.

Fe fydd S4C yn cynnig Brîff enghreifftiol gan roi canllawiau ar y math o wybodaeth a ddisgwylir gan nodi pwy (y cynhyrchydd neu S4C) sy’n gyfrifol am lenwi’r manylion.

3. Amserlen ar gyfer arwyddo’r Brîff
Pwysleisiwyd fod y Cod Ymarfer a’r Telerau Masnach yn cynnig amserlen ar gyfer y broses gomisiynu, a bod angen cytuno ac arwyddo’r Brîff o fewn mis i’r gwahoddiad gael ei anfon allan. Yn ogystal dylid cofio bod angen arwyddo’r Brîff mewn da bryd fel bod y llythyr o fwriad yn cael ei anfon allan fis cyn i’r cyn gynhyrchu ddechrau. Mae hyn mewn gwirionedd yn golygu bod angen dechrau ar y Brîff o leia’ deufis cyn y cyfnod cyn gynhyrchu.

Nodwyd fod y dyddiadau a’r cyfnodau yn cael eu monitro yn fewnol yn S4C er mwyn paratoi adroddiad yn unol â gofynion Ofcom.

Unwaith bod y gwahoddiad wedi ei anfon, awgrymwyd y dylai’r cynhyrchydd ac S4C drafod pa bryd y gellid disgwyl y drafft cyntaf fel bod digon o amser i drafod y gwahanol elfennau ac arwyddo erbyn diwedd y mis.


© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales