Neidio at y cynnwys

S4C

ARWAHANRWYDD I AWDURDOD S4C

23-Tach-2006

Mae Awdurdod S4C wedi penderfynu ar drefn newydd o arwahanrwydd rhwng yr Awdurdod a strwythur gweithredol S4C fydd yn sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd.

Fel rhan o’r drefn newydd, bydd Tîm Rheoli S4C yn cael ei ddiddymu a Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd yn cael ei sefydlu yn ei le, gydag aelodaeth fydd yn cynnwys o leiaf un aelod anweithredol. Bwriedir mabwysiadu’r drefn hon yn y Flwyddyn Newydd.

Bydd swyddogaethau presennol Ysgrifennydd Awdurdod S4C, mewn perthynas â’r Awdurdod ac ochr reoli S4C, yn cael eu gwahanu.

Mae deiliad presennol y swydd, Nerys Hopkins, wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Polisi S4C a bydd yn gyfrifol am weithgareddau ar lefel gorfforaethol a masnachol, gan gynnwys negydu hawliau chwaraeon.

Bydd swydd Ysgrifennydd, fydd yn gweithio’n unswydd i Awdurdod S4C, yn cael ei hysbysebu yn y wasg yr wythnos nesaf.

Meddai John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, “Mae’r newidiadau hyn yn dangos bod yr Awdurdod yn effro i’r angen i sicrhau trefniadaeth bwrpasol ar gyfer S4C. Dyma'r drefn mae'r Awdurdod yn argyhoeddedig fydd yn gosod seiliau cadarn i'r dyfodol."

Hefyd yr wythnos hon fe gyhoeddodd yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon benodiad Rheon Tomos i Awdurdod S4C.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales