Neidio at y cynnwys

S4C

S4C I DDARLLEDU CWPAN RYGBI’R BYD

29-Tach-2006

Bydd arlwy S4C – a welir hefyd ar S4C digidol – yn cynnwys darlledu 18 gêm yn fyw ac yn gyflawn, gan gynnwys y gêm agoriadol, pob un o gêmau grwp Cymru, y rowndiau gogynderfynol a chynderfynol, gêm y trydydd safle a’r rownd derfynol.

Yn ogystal, bwriedir dangos rhaglenni uchafbwyntiau gydol y gystadleuaeth, a gynhelir ym mis Medi a Hydref y flwyddyn nesaf.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae arlwy estynedig S4C o Gwpan Rygbi’r Byd 2007 yn atgyfnerthu ymrwymiad y Sianel i gynnig gwasanaeth darlledu chwaraeon o’r radd flaenaf ac yn adeiladu ar y portffolio cryf sydd gennym o safbwynt darlledu rygbi.

“Cynigir y cytundeb ar gyfer darllediadau Cwpan Rygbi’r Byd S4C i’r sector gynhyrchu annibynnol drwy broses dendro agored a chystadleuol.”

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales