Neidio at y cynnwys

S4C

CALENDR Y FFROG FACH DDU AR WERTH!

01-Rhag-2006

Os ydych chi’n crafu eich pen ddim yn gwybod beth i'w brynu i ffrindiau neu deulu y Nadolig yma, beth am galendr chwaethus Y Ffrog Fach Ddu, sef Calendr Cwpwrdd Dillad 2007?

Ymysg y merched sydd i'w gweld yn gwisgo eu ffrogiau bach du gorau mae Cerys Matthews, Sian Phillips, Lucy Owen, Sian Lloyd a Nia Roberts.

£8 yw pris y calendr, gyda'r elw i gyd yn mynd at Autism Cymru, Elusen S4C ar gyfer 2006.

Os hoffech chi brynu un mae croeso i chi alw draw i dderbynfa S4C yn Llanisien neu Gaernarfon.

Mae'r calendr wedi ei greu gan gwmni Fflic.


© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales