Neidio at y cynnwys

S4C

PENODIADAU NEWYDD S4C

07-Rhag-2006

Mae S4C wedi penodi Meirion Davies i rôl newydd Pennaeth Cynnwys y Sianel.

Bydd Meirion, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel Comisiynydd Adloniant S4C, yn cychwyn ar ei swydd newydd yn y Flwyddyn Newydd.

Bydd yn aelod o dîm y Cyfarwyddwr Comisiynu, Rhian Gibson, ac yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a blaenoriaethu polisi aml-lwyfan S4C, yn unol â’r Strategaeth Rhaglenni.

Mae S4C hefyd wedi penodi Lowri Gwilym yn Olygydd Cynnwys Ffeithiol a Chyd-gynyrchiadau. Yn ei rôl newydd bydd Lowri, Comisiynydd Ffeithiol y Sianel ar hyn o bryd, yn cynorthwyo i ddatblygu polisi ffeithiol S4C ar deledu ac ar lwyfannau eraill.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rwy’n falch iawn i gael Meirion a Lowri ar y tîm. Mae gan y ddau y sgiliau a’r profiad i wireddu uchelgais greadigol S4C.”

Dyma’r penodiadau cyntaf o dan strwythur comisiynu newydd S4C. Bydd y penodiadau eraill yn cael eu cyhoeddi maes o law.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales