PENODIAD SIÂN EIRIAN YN BENNAETH GWASANAETHAU PLANT
11-Ion-2007
Penodwyd Siân Eirian i rôl newydd Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C.
Mae Siân, enillydd cystadleuaeth Cymraes y Flwyddyn 2006, ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru. Bydd yn ymuno â’r Sianel yn dilyn Eisteddfod yr Urdd Caerfyrddin eleni.
Yn ei rôl newydd bydd Siân yn rhoi arweiniad i holl weithgareddau S4C mewn perthynas â phlant ac yn ateb sialensau darparu cynnwys i’r gynulleidfa hon. Y bwriad strategol yw ehangu’r ddarpariaeth.
Bydd Siân yn adrodd i Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C. Meddai Rhian Gibson, “Rydym yn falch iawn i groesawu Siân i dîm comisiynu S4C. Mae ganddi brofiad helaeth ym maes plant a phobl ifanc, yn ogystal â chysylltiadau eang yng Nghymru a thu hwnt.”
Meddai Siân Eirian, “Rhoddodd yr Urdd gyfleoedd gwych i mi ennill profiadau a sgiliau eang. Edrychaf ymlaen yn awr at her newydd a’r cyfle i ddefnyddio’r cefndir yma i wireddu uchelgais S4C ym maes plant.”
Yn enedigol o Langernyw, ger Llanrwst, bydd Siân wedi ei lleoli yn y gogledd.
