NEWIDIADAU I STRWYTHUR S4C
26-Ion-2007
Yn dilyn y penderfyniad i greu arwahanrwydd rhwng Awdurdod a Swyddogion S4C, mae Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd wedi ei sefydlu.
Mae’r Bwrdd yn seiliedig ar chwe Chyfarwyddiaeth sy’n adlewyrchu prif swyddogaethau gweithredol S4C ac sy’n cymryd lle’r strwythur adrannol ac is-adrannol presennol:
1. Comisiynu
2. Cyfathrebu
3. Cyllid ac Adnoddau Dynol
4. Darlledu a Dosbarthu
5. Materion Busnes
6. Polisi Corfforaethol a Masnachol.
Bydd chwe Chyfarwyddwr yn gyfrifol am y meysydd uchod yn adrodd i’r Prif Weithredwr, Iona Jones, Cadeirydd y Bwrdd. Bydd S4C hefyd yn penodi aelod anweithredol i’r Bwrdd.
Bydd y Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau fod amcanion a thargedau S4C yn cael eu cyfathrebu’n effeithiol yn seiliedig ar y Cynllun Corfforaethol, y Strategaeth Rhaglenni a’r Datganiad Polisi Rhaglenni.
Bydd y Bwrdd yn cael ei drefnu gan Swyddog Gweithredol. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod o leiaf bob mis. Mae’r strwythur newydd wedi’i gymeradwyo gan Awdurdod S4C.
Diwedd
Gwybodaeth ychwanegol:
Bydd y cyfarwyddwyr canlynol yn aelodau o’r Bwrdd:
Rhian Gibson Comisiynu
Huw Rossiter Cyfathrebu
Kathryn Morris Cyllid ac Adnoddau Dynol
Arshad Rasul Darlledu a Dosbarthu
Delyth Wynne Griffiths Materion Busnes
Nerys Hopkins Polisi Corfforaethol a Masnachol
Nia Ebenezer yw Swyddog Gweithredol y Bwrdd Rheoli.
Bydd yr uwch swyddogion canlynol yn adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr.
Tim Hartley Materion Corfforaethol
Emlyn Penny Jones Gwasanaethau Cynnwys*
Carys Evans Ymchwil
Dylan Griffith Creadigol
Lynette Morris yw Cynorthwy-ydd Personol y Prif Weithredwr.
*Mae Emlyn Penny Jones wedi’i benodi i swydd newydd sydd yn ymgorffori gwasanaethau mynediad, strategaeth S4C ar gyfer dysgwyr, y gwasanaeth cyflwyno, tywydd a’r llyfrgell ac unrhyw wasanaethau eraill sydd eu hangen i gefnogi cynnwys S4C.
