Neidio at y cynnwys

S4C

NEGES

02-Chwe-2007

Mae Nici Beech a Siân Esmor yn gadael S4C yr wythnos hon.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones: “Mae cyfraniad Nici a Siân i lwyddiant S4C yn amhrisiadwy ac rydym yn gwerthfawrogi’r llafur cariad sydd wedi nodweddi eu cyfnod gyda’r Sianel. Mae safon y rhaglenni fu dan eu gofal yn brawf o’u hymroddiad a’u gwaith caled er budd y gwylwyr. Dymunwn bob llwyddiant i’r dyfodol i Nici a Siân.”

Meddai Nici Beech: “Ers dod i weithio i S4C yn 2000 mae hi wedi bod yn fraint i ofalu am ystod eang o gynyrchiadau ym mhob maes. Dwi’n ddiolchgar iawn o fod wedi gweithio efo pobl ymroddgar, dalentog, creadigol a charedig. Mae ’na ormod o uchafbwyntiau, ond mae datblygu syniadau newydd sbon efo chynhyrchwyr profiadol yn ogystal â rhai oedd yn gweithio ar eu comisiwn cyntaf, wedi bod yn arbennig o gyffrous ac yn werthfawr iawn. Dwi am gymryd seibiant o unrhyw waith am ychydig fisoedd ac ar ôl hynny dwi’n edrych ymlaen at ddatblygu prosiectau amrywiol a niferus!”

Meddai Siân Esmor: “Wrth i mi dreulio cyfnod yn cynllunio'r dyfodol i mi'n bersonol, mi hoffwn ddiolch am y cydweithrediad, y cymorth a'r cyfeillgarwch rydw i wedi ei brofi dros y blynyddoedd, gan hyderu y bydd llwybrau nifer ohonom yn croesi eto cyn bo hir iawn.”

Os byddwch angen cysylltu â Nici neu Siân, dyma eu manylion:

Nici Beech
Bryn Goleu
Y Groeslon
Caernarfon
LL54 7ED
nici@bryngoleu.com
01286 830372/07825 216050

Siân Esmor: sian_esmor@btinternet.com neu, tan ddiwedd Mawrth, ar y rhif ffôn: 07721 591997

Oes bydd unrhyw ymholiadau am syniadau neu gomisiynau cysylltwch â Myfanwy Lewis ar 029 20 741422.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales