Neidio at y cynnwys

S4C

CWPAN RYGBI’R BYD 2007

15-Chwe-2007

Yn dilyn y cyhoeddiad bod S4C wedi ennill yr hawliau darlledu i’r gystadleuaeth uchod, byddwn yn cynnal tendr dau gam i benodi cwmni cynhyrchu.

Bydd gwahoddiad i fynegi diddordeb am dendr ar gyfer darpariaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn cael ei gyhoeddi ar safle cynhyrchu S4C yfory, sef 16 Chwefror 2007. Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb fydd 1 Mawrth 2007.

Bydd S4C yn cynnig rhagor o fanylion i’r cwmnïau sydd ar y rhestr fer.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales