Neidio at y cynnwys

S4C

SWYDD WAG - AELOD ANWEITHREDOL O FWRDD S4C

26-Chwe-2007

Mae Awdurdod S4C wedi gosod trefn newydd o arwahanrwydd rhwng yr Awdurdod a strwythur gweithredol S4C fydd yn sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd. Fel rhan o’r drefn newydd, mae Tîm Rheoli S4C wedi cael ei ddiddymu a sefydlwyd Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd yn ei le. Bydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cynnwys, am y tro cyntaf, o leiaf un aelod anweithredol. Bydd y Bwrdd, a fydd yn cael ei gadeirio gan Brif Weithredwr S4C, Iona Jones, yn gyfrifol am y dyletswyddau hynny a nodwyd yn Rolau Allweddol Awdurdod a Bwrdd S4C (s4c.co.uk/rolauallweddol). Bydd yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth a chyfeiriad ar gyfer S4C a’i chynnwys ac yn atebol i Awdurdod S4C wrth ymwneud â chyrraedd amcanion allweddol.

Bydd gan yr aelod anweithredol rôl allweddol wrth gyfrannu at a rhannu cyfrifoldeb cyfunol am benderfyniadau’r Bwrdd. Bydd gennych, fel yr aelod anweithredol cyntaf, fewnbwn i fframwaith gweithredol y Bwrdd ar gyfer y dyfodol, a byddwch yn cyfrannu at ffurfio dyfodol darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd profiad gennych o ddarparu arweiniad ar lefel uchel i sefydliadau arwyddocaol yn y cyfryngau, ynghyd â’r gallu i ddangos dealltwriaeth o rôl gyhoeddus unigryw S4C. Bydd eich arbenigedd helaeth yn cynorthwyo, herio ac yn ysgogi’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr i gyflawni prif amcan S4C i ddarparu a chynnal rhagoriaeth greadigol yn ei holl weithgareddau.

Bydd yn ofynnol i Awdurdod S4C gymeradwyo’r penodiad. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i o leiaf 4 diwrnod y mis gyda S4C. Telir cyflog am y swydd hon.

I ymgeisio, neu am fanylion pellach, anfonwch lythyr a manylion eich gyrfa at Kay Walters erbyn 23 Mawrth 2007.

Gweithredir polisi cyfle cyfartal.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales