Neidio at y cynnwys

S4C

DEFNYDD O'R LOGO

27-Chwe-2007

Annwyl Gynhyrchwyr a Chydweithwyr

Nodyn cyflym i ddiolch i bawb am fabwysiadu ein logo a’n delwedd newydd mor gyflym a diffwdan. Gai ofyn i chi beidio â defnyddio'r blaen slaes wrth gynnwys enw S4C yng nghorff unrhyw destun e.e. ar ddeunydd print neu mewn erthyglau, ac o fewn is-deitlau. Yr unig dro y dylwn weld y blaen slaes o fewn enw S4C ydy yn y logo ei hun. Yn yr un modd, ni ddylid defnyddio’r blaen slaes yng nghorff unrhyw destun tra’n defnyddio’r fformat amser 24 awr. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau brandio trwyadl yn ystod yr wythnosau nesaf - bydd modd lawr lwytho'r rhain o’r safle hon.

Diolch yn fawr

Dylan Griffith

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales