Neidio at y cynnwys

S4C

TENDR PLANT - NODIADAU YCHWANEGOL

01-Maw-2007

Ar Ionawr 31ain 2007 fe wnaeth S4C gyhoeddi gwahoddiad i dendro am gynhyrchu ‘Dolenni Cyflwyno ar gyfer Rhaglenni Plant S4C’.

Mae Adran 2.3 Patrwm Darlledu yn nodi bod y ddarpariaeth bresennol ar gyfer plant oedran cyn ysgol yn cael ei ddarlledu yn fyw pob dydd yn ystod yr wythnos. Noder os gwelwch yn dda bod y dolenni yma yn cael eu recordio o flaenllaw ond yn cael eu darlledu fel pe bydden nhw’n fyw. Dim ond rhai o’r dolenni sydd yn cael eu darlledu yn fyw pob blwyddyn.

Mae Atodlen DD yn y Gwahoddiad i Dendr yn nodi y byddai S4C yn cyhoeddi cytundeb drafft (“y Cytundeb Drafft”) heddiw, y 1af o Fawrth 2007. Bydd y ddogfen ar gael ar y Safle yma ar fore dydd Llun y 5ed o Fawrth 2007.

Noder yr ychwanegiadau canlynol i atodlen DD o’r Gwahoddiad i Dendro os gwelwch yn dda:

1. Nid oes rheidrwydd ar S4C i dderbyn holl elfennau’r cynnig llwyddianus. Gall dderbyn elfennau o un neu fwy o’r cynigion. Rydych yn cytuno i hyn wrth gyflwyno’r cais.

2. Gall S4C ofyn i gwmni neu gwmniau ddod i gytundeb neu gytundebau ar wahan gyda S4C ar gyfer unrhyw ddeunydd cyfryngau newydd neu wasanaethau atodol a gomisiynir o ganlyniad i’r broses dendr yma. Byddai’r cytundeb(au) yn ychwanegol i’r Cytundeb Drafft. Rydych yn cytuno i hyn wrth gyflwyno’r cais.

Mae gweddill y Gwahoddiad i Dendr yn aros yr un fath.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales